Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o fod yn sefydliad celfyddydol deinamig Cymreig. Rydym hefyd yn elusen sy’n cael effaith ar fywydau pobl ac mewn cymunedau, ac rydym mor falch o’r gwaith rydym yn ei wneud ar y llwyfan ac oddi arno.
Yn 2023/2024, aethom ar daith o amgylch pum opera ar raddfa fawr, gan gynnwys ein Death in Venicea Rigoletto a gafodd ganmoliaeth uchel, ac mae niferoedd ein cynulleidfaoedd wedi parhau i gryfhau ar ôl y pandemig gan ddenu cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â chroesawu dilynwyr ffyddlon yn ôl.
Ar hyn o bryd mae gennym dri Artist Cyswllt ar gytundeb blwyddyn o hyd gyda’r Cwmni yr ydym yn helpu i lansio eu gyrfaoedd, ac mae ein staff technegol arbenigol yn parhau i greu setiau a gwisgoedd o’r radd flaenaf yng nghanol Caerdydd ar gyfer WNO a chwmnïau eraill.
Oddi ar y llwyfan, rydym yn parhau i gyflawni ein gwaith mewn cymunedau ar draws amrywiaeth o brosiectau. Mae’r rhain wedi cynnwys Dysgu gyda WNO, sy’n cyflwyno plant ysgol gynradd yn Ne Cymru i opera a chanu, Lles gyda WNO, ein rhaglen anadlu a chanu a ddarperir mewn partneriaeth â phob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac Opera Tutti, cyngerdd amlsynhwyraidd ymdrochol wedi'i gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD).
- Cyfranogwr Opera Ieuenctid 2023/24'Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi cael gwell cyfleoedd nag y byddwn wedi'u cael heb WNO.'
Yn ystod ein Tymor 2023/24, rydym wedi parhau i ddod ag opera a cherddoriaeth glasurol i bobl ifanc. Fe wnaethom gyflwyno Dysgu gyda WNO mewn 14 o ysgolion, gan gyrraedd cyfanswm o 585 o ddisgyblion yn ystod y flwyddyn academaidd, ac ym mis Mai 2024, perfformiodd yr Opera Ieuenctid The Very Last Green Thing | Solomon’s Ring yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan roi cyfle i’n cantorion ifanc 10-18 oed berfformio i gynulleidfa o 504.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â phobl ynghyd o bob cefndir i brofi opera ryfeddol, ar lwyfan ac yn y gymuned, ac rydym yn dibynnu ar roddion o lu o ffynonellau i helpu i sicrhau ein dyfodol a pharhau i wneud y gwaith gwych hwn.
Mae Dydd Mawrth Rhoi yn fenter ryngwladol mewn ymateb i Ddydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber sy'n annog pobl i roi yn ôl wrth i ni ddechrau cyfnod y Nadolig, a’r Dydd Mawrth Rhoi hwn, gallwch gyfrannu i helpu i gefnogi dyfodol WNO.
Drwy gyfrannu cyn lleied â £1 ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau ein bod yn gallu cyflawni gwaith mewn cymunedau, ar y llwyfan, mewn gweithdai ac yn y neuadd gyngerdd.
Byddwch yn rhan o'n stori, cyfrannwch heddiw.