Newyddion

Harriet Eyley yn ymuno â WNO fel Artist Cyswllt

16 Ionawr 2019

Mae’n bleser gan WNO groesawu ein Hartist Cyswllt diweddaraf, Harriet Eyley, i’r teulu ar gyfer 2019. Gan ddechrau arni ar unwaith fel unawdydd yn ein cyngherddau Blwyddyn Newydd hynod boblogaidd Noson yn Fienna - cyflwyniad ‘rhwydd’ i fywyd yn WNO, efallai! - mae Harriet yn ymuno â’r cwmni ar ôl graddio’n ddiweddar o’r Royal College of Music yn Llundain, gan symud i Gaerdydd i ymgymryd â’r cyfle hwn.

Yn wreiddiol o Swydd Derby, mae Harriet eisoes wedi perfformio ar gyfer ein Noddwr, Tywysog Cymru, ym Mhalas Buckingham. Yn ystod tymor 2017/2018, perfformiodd rolau Papagena yn Die Zauberflöte gyda Garsington Festival Opera fel Artist Ifanc Alvarez; Tytania yn A Midsummer Night’s Dream a Vixen Sharp-Ears yn The Cunning Little Vixen ar gyfer y Royal College of Music. Mae ei pherfformiadau eraill yn cynnwys Serpetta yn La finta giardiniera yng Ngŵyl Handel Llundain a pherfformiad ar raglen In Tune BBC Radio 3.

Adolygodd Bachtrack cynyrchiadau RCM a dywedodd y canlynol am ei pherfformiadau:

Of the cast, Harriet Eyley gave a sparky performance as Vixen, subversive in the farmyard and touching as she discovered first love. She was generous with her higher register and there’s clear technique behind her singing

The Cunning Little Vixen, November 2017

Tytania (Harriet Eyley, magnetic, big-voiced and bright-toned)

A Midsummer Night’s Dream, March 2018

As the Vixen, the soprano Harriet Eyley displayed thrilling brightness and vocal intensity, conveying the character’s vulnerability as well as her confidence and insouciance. In the moonlit interlude her soaring lyrical lines blazed with passion.

Opera magazine, February 2018

Yn draddodiadol, penodir Artistiaid Cyswllt WNO yn dilyn ymweliad ein hadran Artistig â cholegau ar hyd a lled y wlad i weld talent addawol, a darganfod canwr/cantores ifanc i ymuno â’r Cwmni ac ennill profiad amhrisiadwy mewn nifer o rolau perfformio. Mae ein Hartistiaid Cyswllt blaenorol yn cynnwys  David Soar, Camilla Roberts a Robin Tritschler, sydd ymhlith nifer fawr o artistiaid eraill sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn fyd-eang. Mae WNO yn falch o allu darparu’r llwyfan hon, y cam hwn i fyny i fyd opera (cam sy’n gallu bod yn un digon anodd), i ddoniau ifanc o bob cwr o’r DU.

Deciding whether or not to stick with music is a challenge. I just have to believe I can do it

Student sound-bites, BBC Music Magazine, 6 September 2018 (Harriet Eyley 26, soprano, Artist Diploma, RCM)

Yn dilyn ei pherfformiadau yn y gyfres cyngherddau Noson yn Fienna, lle mae wedi cael derbyniad gwresog iawn hyd yma, bydd yn perfformio am y tro cyntaf ar brif lwyfan WNO yn Un ballo in maschera ar ddydd Mercher 6 Mawrth yn Birmingham, cyn canu rhan Norina yn ein cynhyrchiad newydd sbon o Don Pasquale a fydd yn teithio i leoliadau llai yng Nghymru a Lloegr. 


Cefnogir Harriet gan Fwrsari Chris Ball, WNO Sir John Moores Award a Chronfa Waddol WNO