

Un ballo in maschera Verdi
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae cariad, pŵer a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro yn Un ballo in maschera – sy’n seiliedig ar lofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden.
Mae cariad, pŵer a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro yn Un ballo in maschera – sy’n seiliedig ar lofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden, a saethwyd yn ystod dawns fasgiau yn 1792. Mae Riccardo (Gustav) yn addoli Amelia, ond pan mae ei gŵr yn clywed am y garwriaeth mae’n cynllwynio yn erbyn y brenin, sy’n arwain at y llofruddiaeth yn y ddawns. Gwyn Hughes-Jones sy’n arwain y cast fel Riccardo yn y stori hon o dwyll, cynllwynio, cariad a dial.
Mae’r sgôr yn un o rai mwyaf dwys Verdi gan roi’r angerdd cerddorol sy’n gyrru’r cynhyrchiad newydd, cyffrous hwn. Bydd Cyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney yn cydweithio eto â Carlo Rizzi (*), Arweinydd Llawryfol WNO, ynghyd â’r un tîm creadigol a weithiodd ar La forza del destino ar gyfer ail ran ein trioleg Verdi.
*Carlo Rizzi yn arwain yng Nghaerdydd a Birmingham yn unig.
The Stage
The Guardian
The Telegraph




Cyd gynhyrchiad gyda Theater Bonn
Cefnogir gan Verdi Syndicate WNO

Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Mae Riccardo yn arweinydd gwleidyddol sydd wedi ymbellhau oddi wrth nifer o’i gefnogwyr sydd, erbyn hyn, yn cynllwynio yn ei erbyn. Yn dawel fach, mae Riccardo mewn cariad ag Amelia, sef gwraig ei gyfaill pennaf, a’i gynghorydd, Renato. Ac, yn dawel fach, mae Amelia, hefyd, mewn cariad â Riccardo. Pan mae Renato’n darganfod y brad hwn, mae’n benderfynol o ddial, gan ymuno â chriw o chwyldrowyr sydd wedi dod i’r casgliad mai’r dewis gorau iddynt yw cael gwared ar Riccardo. Caiff ei lofruddiaeth ei gynllunio a dewisir Renato i gyflawni'r weithred.