Newyddion

Ymgollwch ym Myd Digidol RHYDDID

17 Mehefin 2019

Mae Geiriadur Caergrawnt yn diffinio rhyddid fel 'Y pŵer neu hawl i weithredu, siarad, neu feddwl fel yr hoffwch,' a'r 'cyflwr lle nad ydych yn garcharor neu'n gaeth'. Y Tymor hwn, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio beth yw rhyddid; beth mae'n ei olygu i eraill ac, yn bennaf, beth mae'n ei olygu i chi. Gallwch gymryd rhan yn ein harddangosfeydd digidol ymgollol, a gweld y profiadau o gaethiwed a rhyddhad mae pobl yn eu hwynebu'n ddyddiol.

Efallai eich bod yn cwestiynu, oes angen arddangosfa ddigidol pan fo technoleg o'n cwmpas ni'n gyson?

Gan roi poblogrwydd i un ochor, mae arddangosfeydd digidol yn ein tynnu'n agosach at y gwaith ac, ar brydiau, at fydoedd hollol wahanol na fyddem yn gallu dod o hyd iddynt fel arall. Mae arddangosfa ddigidol RHYDDID yn amrywio o ddyddiau'r Almaen Natsïaidd (The Last Goodbye, The Girls of Room 28) i Syria (Fluorscence) ac Unol Daleithiau America (Terminal 3) heddiw, ac hyd yn oed yn mentro i'r dyfodol (Future Aleppo.) 

Mae arddangosfeydd digidol yn gallu eich gosod chi yn esgidiau rhywun arall, yn llythrennol. Y 'rhywun arall' yn yr achos hwn yw Mohammed Kteish (Future Aleppo). Gyda chymorth penset a rheolwr llaw rhithwirionedd, gallwch ei helpu i ailgodi'r ddinas mae'n ei charu, sef Aleppo. Ond, tydi rhannu ei brofiad ag eraill ddim yn dod i ben yma; bydd hefyd yn gweithio gyda phlant ysgol lleol i gyflwyno eu syniadau nhw am Gaerdydd yn y dyfodol. Bydd y plant yn cael y cyfle i siarad â Mohammed trwy gyswllt fideo ac yna'n cael gweld eu syniadau yn dod yn fyw mewn rhithwirionedd.

Yn olaf, yn ogystal â chaniatáu i ni rannu'r profiadau hyn, mae technoleg yn rhoi'r gallu i bawb brofi celf a diwylliant. Nid oes gan bawb y modd i ymweld â Gwald Pwyl; ond, fe all The Last Goodbye, y ffilm rithwirionedd hynod lwyddiannus gyda Pinchas Gutter, a grëwyd gan Gabo Arora ac Ari Palitz, fynd â chi yno. Mae ei daith o amgylch gwersyll crynhoi Majdanek, lle'r aethpwyd ag ef pan oedd yn 11 oed, yn eich addysgu ac yn rhoi darlun uniongyrchol i chi o hunllefau'r ganrif ddiwethaf.  

Mae The Girls of Room 28hefyd yn mynd â chi'n ôl mewn hanes i'r Holocost. Wrth edrych ar lythyrau, traethodau, lluniau a dyddiaduron gan blant o Theresienstadt, byddwch yng nghanol realiti drychinebus arall. Drwy ddigidoleiddio'r arteffactau hyn, rydym yn caniatáu i’r stori barhau ymhell wedi i'r ddogfen wreiddiol gyrraedd diwedd ei hoes. Nid ydym yn bwriadu cymryd lle'r amgueddfa draddodiadol. Yn wir, mae llawer o luniau gwreiddiol The Girls of Room 28 yn cael eu harddangos mewn orielau celf ar draws y byd. Ein bwriad ni yw sicrhau bod yr arteffactau hyn ar gael i bawb, a'u cadw nhw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Po fwyaf y byddwn yn rhannu hanes pobl eraill ac yn gweld pethau o safbwyntiau gwahanol, y mwyaf y byddwn yn deall am y byd o'n cwmpas. Mae sylw Gabo Arora am rithwirionedd yn crynhoi hyn yn briodol; 'Yn aml, mae pethau'n effeithio ar bobl ac maent yn teimlo cysylltiad nad oeddynt yn ei ddisgwyl, gyda rhywun yr oedden nhw'n meddwl eu bod yn gwbwl wahanol iddyn nhw'u hunain. Y dyngarwch a rannir sydd yn effeithio ar bobl fwyaf.' Dim ond wrth ennill gwybodaeth am ein gorffennol y gallwn symud ymlaen at ddyfodol gwell.