Newyddion

Mae'r cyfan yn y gwaith paratoi...

1 Medi 2020

O dan amgylchiadau arferol, byddai ein cartref hyfryd dinas Caerdydd yn nofio mewn lliw gyda dathliadau blynyddol Pride Cymru, a gynhelir fel rheol dros benwythnos Gŵyl y Banc Awst. Cawsom sgwrs â Stevie Haynes-Gould, Cynorthwyydd Gwisgoedd Teithiol Opera Cenedlaethol Cymru ac aelod balch o'r gymuned LGBTQIA+, i archwilio'r tir cyffredin rhwng paratoi perfformiwr ar gyfer sioe a pharatoi ar gyfer un o ddigwyddiadau mwyaf a mwyaf lliwgar y flwyddyn.

'Yr hyn sy'n gwneud Pride yn hwyl yw'r teimlad o fod yn gyfforddus ond eto'n danbaid yn beth bynnag yr ydych am ei wisgo a sut y dymunwch fynegi eich hun. Un flwyddyn, creais wisg hufen iâ siocled ar gyfer parti yn yr ardd ar thema lân môr fy ffrind. Fe wnes i wnïo gyda llaw secwins brown ar grys T gwyrdd mintys, gwisgais drowsus 'chinos' brown a chreais benwisg waffer batrymog o ewyn a phaent ffabrig 3D. Yn goron ar y cyfan oedd mymryn o glitter. A oeddwn i'n ffasiynol? Dim felly ond cefais hwyl!

Ar y llwyfan neu oddi ar y llwyfan, personoliaeth a phalet lliw yw popeth. Mae'r lliw olaf yn y Faner Pride, porffor, yn cynrychioli Ysbryd a hoffaf feddwl bod gennyf hynny yn fy ngwaith a phopeth a wnaf, boed yn arlunio neu'n gwnïo. Os ydw i mewn dathliad, rwy'n hoff o fynd i ysbryd y parti, yn enwedig os oes gwisg dan sylw.'

'Mae gan Opera yn naturiol duedd i gael cymeriadau dwys. Un o fy ffefrynnau yw Brenhines y Nos o The Magic Flute Mozart. Mae ei phersonoliaeth yn bwerus, dialgar ac urddasol ac yng nghynhyrchiad 2005 WNO mae'r Frenhines wedi'i gwisgo i efelychu awyr y nos mewn mefled du gyda phlu du/gwyrdd petrol a manylion crisial dros ei bodis a ffrog.

Rwyf wedi gwerthfawrogi dylunio gwisgoedd o oedran ifanc iawn. Aeth fy mrawd â mi a fy chwaer i weld cynhyrchiad gwreiddiol y West End o Beauty and the Beast Disney yn Theatr Dominion ym 1999. Ar y pryd nid oeddwn erioed wedi gweld unrhyw beth ar y fath raddfa ar lwyfan. Roedd ei ddyluniad yn fanwl, lliwgar a ffantasi llwyr. Fodd bynnag, pan oeddwn yn astudio Safon Uwch mewn Astudiaethau'r Theatr a Drama y sylweddolais fy mod eisiau gweithio ym myd theatr. Cofrestrais ar y cwrs Dylunio Theatr bryd hynny yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae'r gweddill yn hen hanes.

Mae pawb a welwch mewn gwisg ar lwyfan yn ganlyniad misoedd o waith paratoi. Yn draddodiadol mewn theatr, rydych yn cael 30 munud, a elwir yn 'the half' weithiau, i gael y perfformwyr yn barod i fynd ar y llwyfan. Mae'r cyfnod hwn yn ymdrech ar y cyd rhwng y timau Gwisgwyr, Cwpwrdd Dillad, Wigiau a Cholur a Pherfformwyr.'

'Mae'r gwaith paratoi yn wahanol i bob cynhyrchiad. Ar gyfer Le Vin herbé Frank Martin roedd y cast wedi'u gwisgo mewn dillad du modern a dim ond pum munud oedd angen arnynt i wisgo, ond gyda Rhondda Rips It Up!, roedd rhaid gwisgo cymeriadau benywaidd y cast mewn staes. Yr unig eithriad oedd Lesley Garrett a oedd yn gorfod gwisgo fflatiwr brest gan ei bod yn chwarae rhan yr unig gymeriad gwrywaidd. Mae'n anhygoel pa mor gyflym y gallwch weithio pan mae amser yn brin!

Er mae'n bosib y byddaf yn profi Pride Cymru ychydig yn wahanol eleni [adref gyda fy ngŵr a'm ci], fel rheol i baratoi ar ei gyfer byddaf yn gwrando ar Scissor Sisters/ Muse neu'n rhoi Priscilla, Queen of the Desert i chwarae yn y cefndir wrth wneud fy hun yn barod. Mae paratoi yn y gwaith yn llawer mwy difrifol wrth gwrs ond gall fod yn hwyl o hyd ac ar ôl sioe hir a phrysur mae'n braf ymlacio gyda chydweithwyr, ond dim ond ar ôl i'r tîm Cwpwrdd Dillad, a'r Gwisgwyr lleol a minnau gasglu dillad budr y sioe ac os oes angen, golchi unrhyw waed ffug oddi ar y gwisgoedd (wrth fynd â Madam Butterfly ar daith er enghraifft!).'