Newyddion

Ymateb y gynulleidfa i Jenůfa

14 Mawrth 2022

Dychwelodd cynhyrchiad clodwiw Katie Mitchell o Jenůfa i Opera Cenedlaethol Cymru ar 5 Mawrth, ac rydym eisoes wedi cael adolygiadau 4 seren ac adborth gwych gan gynulleidfaoedd. Agorwyd perfformiad y noson gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, sydd hefyd wedi derbyn medal goffa Janáček. Cyffyrddodd ar yr hyn sy'n digwydd yn Ewrop, cyn mynd ymlaen i arwain Cerddorfa WNO drwy opera ddramatig Janáček.


Tomáš Hanus shows us all the earthy, brutal lyricism of Janáček’s score.

The Times

This was a wholly compelling performance from cast, chorus and orchestra alike, embracing such empathy and commitment as to leave its audience deeply moved and more than a bit drained.

The Guardian

Parhaodd y canmol ar Twitter hefyd. Dyma beth ddywedodd rhai o’n cynulleidfa:

Ar Facebook:

Cafwyd opera hyfryd heno. Roedd yr araith am ein dynoliaeth gyffredin yn cyffwrdd y galon. Cynhyrchiad llethol, gwych.

Gary Clark

Cynhyrchiad Gwych

Liz Perkins

Cynhyrchiad hyfryd - roedd yr unawdwyr, y gerddorfa a'r corws yn wych

Judith Berry

Cefais weld Jenůfa yr wythnos ddiwethaf, roedd yn wych

Donal Sargeant

A dros ebost - 

'araith ragorol cyn dechrau'r sioe, Jenůfa – cyfoethogodd fy mwynhad a'm dealltwriaeth o'r opera - diolch yn fawr i'r Dramaturg arbennig'

 'Roedd araith Maestro Hanus yn arbennig'

 'Dyma gynhyrchiad hyfryd o opera wych'

 'Cynhyrchiad gwefreiddiol ac araith deimladwy gan Tomáš Hanus'

 'Opera arall wedi'i pherfformio'n arbennig'


Ydych chi eisiau dod i brofi Jenůfa gan Janáček’ gyda'ch llygaid chi eich hun? Cynhelir dau berfformiad arall o'r opera yng Nghaerdydd cyn mynd ar daith berfformio tan 14 Mai, gan ymweld â Milton Keynes, Bryste, Plymouth, Birmingham, Llandudno a Southampton. Os byddwch yn ymuno a ni, cofiwch rannu'ch barn. #WNOjenufa.