Newyddion

La bohѐme - Ymateb y Gynulleidfa

11 Hydref 2022

Dychwelodd clasur diamser Puccini, La bohѐme, i Gaerdydd ym mis Medi, gan ddod â’r nosau oer Parisienne i gynulleidfaoedd Opera Cenedlaethol Cymru unwaith yn rhagor.  Cyn i’r stori o gariad a cholled fynd ar daith tan fis Rhagfyr, gofynnon ni i’n cynulleidfa Caerdydd beth oedd eu barn am y sioe. 

Cysylltodd rhai aelodau o’r gynulleidfa drwy e-bost: 

'Yn wir, does gen i ddim geiriau.  Roedd y canu, y cynhyrchiad, y lleoliad a’r gerddorfa i gyd yn hollol wych'

'Roedd ansawdd Corws a Cherddorfa WNO o’r radd flaenaf. Roedd y cynhyrchiad cyfan yn bleser gweledol. Roedd gan bob un o’r unawdwyr leisiau rhagorol. Roeddem wedi’n swyno a’n hysgwyd yn emosiynol yn yr un modd. Bûm yn mynychu operâu ers i mi symud i Gaerdydd yn 1977, a hwn oedd un o fy hoff brofiadau operatig'

'Roedd popeth yn wych. Roedd y canu’n hyfryd. Roedd y setiau’n anhygoel, a’r awyrgylch yn fendigedig'

'Roedd yn achlysur pleserus iawn ac yn eitem yr oeddwn wedi gallu ei wireddu oddi ar fy rhestr fwced. Profiad bendigedig y byddaf yn sicr o ddychwelyd ato am ragor'

Ar Facebook:

Perfformiad penigamp neithiwr. Mae mor braf bod yn ôl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Katherine Meyer

Roedd La bohѐme yn hollol wych heno yng Nghaerdydd. Da iawn WNO

Alyson Jones

Perfformiad campus

Matt Lea

Es i weld hwn heddiw. Hollol wych. Canu anhygoel.

Al Williams

Ar Twitter, gallwch roi gwybod i ni faint wnaethoch chi fwynhau drwy dagio @WNOtweet a @OperaCenCymru neu ddefnyddio’r hashnod #WNOboheme

Peidiwch â cholli’ch cyfle i weld un o straeon cariad mwyaf y byd opera yr hydref hwn, wrth i Opera Cenedlaethol Cymru ymweld â Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton a Rhydychen tan ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr.