Am ddiwrnod oedd #OperaPassion ar 24 Hydref 2017. Diolch i bawb fu’n dathlu gyda ni, roedd hi’n ddiwrnod gwych gyda’r prif gwmnïau opera, BBC Arts a’r V&A yn dod ynghyd i ddathlu ein cariad ac angerdd tuag at opera. Rydym yn teimlo’n freintiedig iawn ein bod wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y diwrnod ac i ledaenu grym y gelfyddyd hon i chi gyd.
O 11am ar 19 Hydref 2017, roedd #OperaPassion wedi meddiannu’r cyfryngau cymdeithasol gan ddarlledu ffrydiau byw o bob cwr o’r DU. O arbrofion cerddorol gan Tomorrow’s World i sesiwn gyd-ganu yng Ngorsaf St Pancreas, rydym wedi rhoi sylw i bopeth. Ar gyfer cyfraniad cyntaf WNO i’r diwrnod aethom at galon ein Corws drwy ddarlledu ymarfer byw a rhoi cipolwg 360° i wylwyr o rym ein Corws.
Gallwch ailchwarae’r fideo rhyngweithiol ar ein tudalen Facebook lle gallwch hefyd weld beth oedd gan Stephen Harries, ein Côr-feistr, i’w ddweud.
Ochr yn ochr â’n sesiynau byw rhannwyd fideo WNO yn cyflwyno pobl newydd i opera ac yn chwalu’r dirgelwch sy’n bodoli ynglŷn ag opera i newydd-ddyfodiaid. Mi oedd ein fideo ‘Newydd i Opera’ yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr opera a chomedi ar draws y wlad. Edrychwch ar y fideo a rhannwch o ag unrhyw sgeptig opera i weld a fydd y ffilm ddoniol hon yn newid eu meddyliau.
Roedd Radio 3 yn cymryd rhan drwy ddarlledu rhai o’n hoff unawdau opera drwy gydol y dydd a chynnal pleidlais er mwyn i’r cyhoedd bleidleisio dros yr opera fyddai’n cael ei darlledu ar ddiwedd y dydd. Rhybudd Datgelu! Tosca enillodd y gystadleuaeth ac fe’i darlledwyd ar Radio 3 er mwyn i ni gyd gael ei mwynhau. Roeddem ni yn WNO yn edrych ymlaen yn fawr at y darllediad oherwydd fe berfformiwyd Tosca fel rhan o’n rhaglen Tymor y Gwanwyn 2018.
Ar gyfer ein cyfraniad olaf roedd gennym ffrwd byw, drwy dudalen BBC Arts, o Daith Gyffwrdd o set ein cynhyrchiad o Die Fledermaus. Taith Gyffwrdd yw taith cyn-sioe ar gyfer cynulleidfaoedd dall neu sydd â nam ar y golwg i ddysgu mwy am yr opera a hefyd i gael syniad o sut beth yw’r set. Edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy am yr hyn yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer aelodau’r gynulleidfa sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg. Gallwch wylio Julia Carson Sims a Jonathan Nash yn mynd â’n cynulleidfa ar daith o set foethus Die Fledermaus.
Roedd #OperaPassion yn ddathliad o bopeth opera ac yn ffordd fendigedig i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, rhoi cipolwg tu ôl i’r llenni i’n cynulleidfaoedd opera cefnogol, yn ogystal â rhannu ein llwyddiannau a llongyfarch opera Prydeinig. Edrychwch yn ôl ar yr holl weithgareddau gwych drwy ymweld â thudalen BBC Arts.
Nodiadau
Buom yn gweithio’n agos â BBC R&D i gynhyrchu’r fideos byw a hoffem ddiolch i’r tîm cyfan am eu gwaith gwych.
Ni fyddai modd i ni ddangos ein taith gyffwrdd i chi heb gymorth Julia Carson Sims, Rheolwr Llwyfan WNO a Jonathan Nash o Sightlines
Diolch o galon i’r cwmnïau opera eraill a gydweithiodd i greu diwrnod bendigedig i gefnogi ein gilydd yn ein gwaith a mwynhau opera ar ei orau. English National Opera, English Touring Opera, Glyndebourne, Northern Ireland Opera, Opera North, Royal Opera House a Scottish Opera.