Newyddion

Madam Butterfly – Ymateb Cynulleidfa

8 Hydref 2021

Perfformiwyd ein cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ddydd Gwener 24 Medi, ac rydym wedi cael adborth arbennig gan gynulleidfaoedd, yn ogystal ag adolygiadau 4 seren yn y cyfryngau. Dyma beth ddywedodd rhai o’n cynulleidfa:

Ar Twitter:

ar Facebook:

Cynhyrchiad diddorol iawn, a gwnaethom ei fwynhau’n fawr. Mae’n rhoi llawer i rywun gnoi cil arno. Roedd y ddwy weminar a welsom yn ystod y bythefnos cyn y perfformiad yn ddefnyddiol iawn o ran paratoi i brofi’r agwedd wahanol hon at y stori. Diolch WNO!

Marigold Oakley

Caru’r cynhyrchiad - gwych ac yn procio’r cydwybod

Mary King

Hollol wych. Newydd gyrraedd adref ac yn dal yn llawn bwrlwm.

Maggie Biss

Edrych yn wych!

Jane Allison

neu drwy ebost:

‘Cefais fy hudo, fy ysgwyd yn emosiynol, fy llethu, fy nghodi a’m chwalu, ac roedd yn rhaid i mi ‘sgwennu. Dyma Löyn Byw bendigedig ar gyfer yr oes bresennol. Rwyf am ddod eto - ac eto ac eto, os yw’n bosib.’

‘Roeddem wedi gwirioni â’r cynhyrchiad hwn. Mae’r opera’n edrych ar faterion mor heriol ac anghyffyrddus, a chawsant eu dehongli gyda disgleirdeb, dewrder, sensitifrwydd a chreadigrwydd.  Mae’n gampwaith, ac ar ôl ei weld, ni allaf ddychmygu unrhyw gynhyrchiad arall yn dod yn agos i’r safon rydych chi wedi’i gosod.’

‘Byddaf yn prynu tocynnau i’w weld eto ym mis Mawrth. Diolch am dawelu fy ofnau a phrofi bod angen newid o bryd i’w gilydd.’

‘(Cefais fy) nhrosglwyddo i fyd hyfryd yn llawn angerdd a hudoliaeth. Roedd y lleisiau a’r actio’n wych. Roedd y gwaith paru rhwng y Butterfly a Suzuki mor berffaith nes fy mod i’n methu â deall pwy oedd yn canu ar brydiau. Roedd y deuawdau’n rhagorol oherwydd hynny’

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan yr ymatebion hyn, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld wrth i ni fynd â’r cynhyrchiad hwn a The Barber of Seville gan Rossini, ar daith tan 2 Rhagfyr - cofiwch wirio pryd rydyn ni’n cyrraedd lleoliad sy’n agos i chi. Yna, rhannwch eich barn gyda ni: #WNObutterfly