Newyddion

Cwrdd â'r Artistiaid Cyswllt - Thomas Kinch

11 Tachwedd 2022

Y Tymor hwn, croesawodd Opera Cenedlaethol Cymru'r tenor Thomas Kinch fel Artist Cyswllt 2022/2023. Mae'r cynllun hwn yn ffordd ddelfrydol i berfformwyr ifanc addawol ddechrau eu gyrfa broffesiynol, gan gael cyfleoedd hyfforddiant a pherfformio.
 
Mae Thomas eisoes wedi cyflawni llawer. Yn 2021 ef oedd y New Generation Artist gydag Iford Arts, lle perfformiodd ran Canio yn Pagliacci, opera o 1892 gyda'r gerddoriaeth a'r libreto gan Ruggero Leoncavallo. Yn y perfformiad hwn, nododd Art Scene in Wales fod Thomas wedi 'canu rhan Canio yn rhyfeddol gydag emosiwn a chryfder i'ch taro oddi ar eich sedd.' 

Yn yr un flwyddyn, roedd Thomas yn Artist y Dyfodol yn yr Institute for Young Dramatic Voices, rhaglen haf ym Mhrifysgol Nevada a sefydlwyd gan Dolora Zajick, Rosemary Mathews a Sarah Agler. Tra yno, gweithiodd gyda mentoriaid o'r Metropolitan Opera, La Scala, a Deutsche Oper Berlin. 
 
Yn ystod ei gyfnod yn y Royal Conservatoire of Scotland, perfformiodd Thomas nifer o rannau yn cynnwys Father Grenville yn Dead Man Walking, opera fodern Americanaidd a gyfansoddwyd gan Jake Heggie, Gerardo yn Gianni Schicchi gan Puccini, Sam Kaplan yn Street Scene a Satyavan yn Savitri gan Gustav Holst. 

Mae ei rannau mwyaf diweddar wedi cynnwys Nadir yn Les Pêcheurs de Perles gydag Opera Bohemia. Yn y gwaith hwn gan Bizet o 1864, mae gan gymeriad Nadir aria atgofus a thelynegol ‘Je crois entendre encore’ (‘Daliaf i gredu mod i'n clywed’) sy'n cynnwys y C uchel enwog i denor. Canodd Thomas ran Alfredo yn La traviata a Cavaradossi yn Tosca gydag Opera Gogledd Cymru hefyd. Ym mis Mai'r flwyddyn nesaf, bydd yn gweithio gyda'r tenor adnabyddus o'r Eidal Salvatore Fisichella yn Sicily.

Ar hyn o bryd mae Thomas yn ddirprwy i ran Vitek yn The Makropulos Affair gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Y Gwanwyn nesaf bydd yn canu rhan y 1st Armed Man yn ein cynhyrchiad newydd sbon o The Magic Flute, wedi ei chyfarwyddo gan Daisy Evans (sy'n cynnwys tro cyfoes). 

Mae bod yn Artist Cyswllt gydag Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf cadarnhaol a chefnogol rwyf wedi ei gael erioed. Dangosir imi'n barhaus beth arall allaf ei gyflawni a pha mor bell y gall fy ngallu fynd â mi dan arweiniad staff anhygoel WNO. Mae'n gyffrous ymarfer a pherfformio gyda chyfleusterau mor wych ac ar lwyfan mor hardd. Mae'n well nag unrhyw beth rwyf wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae yna ddiwylliant teuluol amlwg yma ac rwy'n teimlo mod i wirioneddol yn rhan o'r teulu hwnnw.

Thomas Kinch

Os yw hyn i gyd wedi creu argraff arnoch, yna pam na ddewch chi draw i weld Thomas yn perfformio drosoch eich hun a phrofi The Magic Flute, rhwng 5 Mawrth – 27 Mai 2023, sy'n ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Lerpwl, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth.