Newyddion

Dinasoedd Cerddorol - Glasgow

24 Mai 2021

Mae Glasgow yn ddinas fywiog, ac mae'r byd cerddorol yno yn amrywio o gerddoriaeth gyfoes a chlasurol i draddodiadol, a hyd yn oed techno. Gadewch i ni gymryd golwg ar rai o'i phrif gwmnïau a lleoliadau clasurol.

Y Britannia Panopticon yn Glasgow yw neuadd gerdd hynaf y byd. Ymhlith neuaddau cerdd y ddinas mae'r Old Fruitmarket a'r Royal Concert Hall, sy'n cynnal yr ŵyl werin flynyddol Celtic Connections, ac sy'n gartref i’r Royal Scottish National Orchestra. Mae nifer o gwmnïau celfyddydau cenedlaethol wedi'u lleoli yn Glasgow, yn cynnwys y BBC Scottish Symphony Orchestra, National Youth Orchestra of Scotland a’r Scottish Ensemble.

Agorwyd y Theatre Royal Glasgow am y tro cyntaf yn 1867, a bellach mae'n gartref i Scottish Opera a Scottish Ballet. Sefydlwyd Scottish Opera gan Alexander Gibson yn 1962, ac fe brynodd y cwmni y Theatre Royal yn 1974. Cafodd ei ailagor fel tŷ opera cenedlaethol cyntaf yr Alban ym mis Hydref 1975, gyda pherfformiad o Die Fledermaus. Dechreuodd perthynas Syr David Pountney gyda WNO gyda chyfres o operâu Janáček, gan gychwyn gyda Jenůfa yn 1975, oedd yn gyd-gynyrchiadau gyda Scottish Opera, ble roedd Pountney yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ar y pryd. Roedd y gyfres yn llwyddiant ysgubol, a chynyddodd poblogrwydd cerddoriaeth Janáček ym Mhrydain.

Mae rhaglen Haf 2021 Scottish Opera yn cynnwys cynhyrchiad awyr agored o Falstaff, wedi ei ddylunio a'i gyfarwyddo gan yr enwog Syr David McVicar. Ganwyd McVicar yn Glasgow, a chafodd hyfforddiant yn y Glasgow School of Art a’r Royal Scottish Academy of Music and Drama fel actor, dylunydd a chyfarwyddwr. Cyfarwyddodd gynhyrchiad 2009 WNO o La traviata, a ymddangosodd ar y llwyfan eto yn 2018. 

Mae’r Kelvingrove Art Gallery and Museum yn lleoliad gwerth chweil arall, ac mae'n gartref i un o gasgliadau celf mwyaf arbennig Ewrop. Mae hefyd yn gartref i organ arbennig ac yn aml, gwelir y Royal Scottish National Orchestra yno, yn ogystal â myfyrwyr o’r Royal Conservatoire of Scotland yn y brif neuadd.

Sefydlwyd The Royal Conservatoire of Scotland yn gyntaf fel y Glasgow Athenaeum yn 1847, ac am y 39 blynedd cyntaf dim ond dosbarthiadau cerddoriaeth oedd yn cael eu cynnig. Ychwanegwyd drama i'r cwricwlwm yn 1886. Yn 1892, penododd yr Athenaeum ei athro cyntaf, Emma Ritter-Bondy, a chredir mai hi oedd yr athro benywaidd cyntaf mewn sefydliad addysg uwch ym Mhrydain. Yn 1929, ffurfiwyd y Scottish National Academy of Music o Ysgol Gerdd yr Athenaeum. Erbyn 1944, cafodd ei bresenoldeb rhyngwladol ei gydnabod gan y Brenin George VI, a chafodd yr enw y Royal Scottish Academy of Music. Yn 2011, newidiwyd enw'r sefydliad i The Royal Conservatoire of Scotland, ac roedd y newid hwnnw yn cadarnhau ei statws cenedlaethol a'i gwricwlwm cynyddol, gyda graddau'n cael eu cynnig ar draws y celfyddydau perfformio.

Astudiodd Phamie Gow (b.1980), cyfansoddwr ac aml-offerynnwr, yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama yn Glasgow. Mae hi wedi cynhyrchu a rhyddhau 9 albwm yn cynnwys ei chyfansoddiadau personol, ac mae ei gwaith, War Song, wedi ymddangos ar sawl un o'r casgliadau mwyaf poblogaidd erioed. Ganwyd y diweddar Oliver Knussen (1952-2018) yn Glasgow ac roedd yn un o gyfansoddwyr ac arweinwyr cyfoes uchaf ei barch ym Mhrydain. Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus mae'r operâu Where the Wild Things Are a Higglety Pigglety Pop! wedi'i ysgrifennu ar y cyd â'r darlunydd Maurice Sendak.

Mae Glasgow yn orlawn o hanes a diwylliant, ac yn ddiweddar cafodd ei henwi fel y ddinas fwyaf cyfeillgar y byd gan ddarllenwyr Rough Guides. Glasgow yw Dinas Gerdd UNESCO cyntaf Prydain, a’r ddinas fwyaf creadigol yn ôl Comisiwn Ewrop 2019, felly mae rhywbeth at ddant pawb yno.