Newyddion

Blwyddyn Newydd yn Fienna

6 Ionawr 2021

Mae mis Ionawr yn Opera Cenedlaethol Cymru fel arfer yn golygu y byddai ein Cerddorfa wych yn mynd â chyngerdd ar thema Fienna i'n cynulleidfa ledled y wlad i ddathlu’r flwyddyn newydd. Er nad yw hynny’n bosib eleni, rydym yn mynd i archwilio hanes y teulu Strauss a’r walts Fiennaidd.

Mae’r enw Johann Strauss, a sain ei gerddoriaeth, yn gyfystyr â Fienna. Ganed Johann Strauss ar 14 Mawrth 1804 mewn tŷ tafarn bach ar lannau’r afon Danube ym maestref Leopoldstadt, Fienna. Fel plentyn byddai'n sleifio i lawr o'i ystafell wely ac yn cuddio o dan y byrddau er mwyn iddo glywed y gerddoriaeth a gwylio cyplau yn dawnsio'r walts. Pan oedd yn ddim ond 15 oed, enillodd y feiolinydd dawnus le yng ngerddorfa hynod boblogaidd Michael Pamer. Yn ddiweddarach ymunodd â Phedwarawd Lanner a ffurfiwyd gan Josef Lanner a fyddai’n dod yn gystadleuydd iddo. Yn fuan sefydlodd Strauss ei gerddorfa ei hun, a deithiodd ar hyd a lled Ewrop gyda llwyddiant ariannol mawr. Mae Strauss a Lanner yn cael eu hystyried yn dadau’r walts Fiennaidd, ac mae’r ddau wedi’u hanfarwoli mewn efydd yn Rathauspark yn Fienna.

Yn 1825 priododd Strauss ag Anna Streim ac ar 25 Hydref, ganed Johann Strauss II. Hwn oedd y Johann Strauss a fyddai’n mynd ymlaen i ragori ar ei dad fel cerddor, a dod yn y cyfansoddwr mwyaf poblogaidd, mwyaf toreithiog, a gafodd y mwyaf o ganmoliaeth ryngwladol, y mae dinas Fienna erioed wedi’i gynhyrchu - neu y byddai byth - yn ei gynhyrchu. Er gwaethaf anghymeradwyaeth ei dad, roedd y Strauss ifanc wedi dechrau cyfansoddi a chyfarwyddo ei ensemble ei hun o gerddorion lleol erbyn ei fod yn 20 oed. Yn 1849, pan fu farw ei dad, cyfunodd Johann Strauss II ei gerddorfa â cherddorfa ei dad a mynd ar daith a oedd yn cynnwys Rwsia a Lloegr, gan ennill poblogrwydd mawr. Ysgrifennodd mwy na 400 walts, polca, cwadrîl, ac alawon dawns eraill, yn ogystal â sawl opereta. Y darn unigol enwocaf o gerddoriaeth i ddod allan o Fienna, ac sy’n cael ei glywed yn ddi-ffael ym mhob cyngerdd Dydd Calan yn Fienna, yw The Blue Danube gan Johann Strauss II. Mae’r gwaith yn arddangos cyfoeth symffonig ac amrywiaeth ei gerddoriaeth, a enillodd iddo’r teitl ‘Brenin y Walts’.

Mae Theatr an der Wien Fienna wedi cynnal perfformiadau premiere bythgofiadwy gan gynnwys The Magic Flute gan Mozart, Fidelio gan Beethoven a Die Fledermaus gan Strauss II. Perfformiwyd agorawd wych yr opera yn y Gyngerdd Dydd Calan cyntaf yn Fienna. Mae Cerddorfa Ffilharmonig Fienna yn cyflwyno cyngerdd blynyddol o gerddoriaeth o repertoire helaeth teulu Strauss a'i gyfoeswyr. Mae’r gyngerdd mor boblogaidd nes bod y tocynnau’n cael eu clustnodi trwy loteri bron i flwyddyn ymlaen llaw ac mae’n cael ei ddarlledu i dros 90 o wledydd ledled y byd. Roedd cyngerdd eleni, a oedd yn cynnwys 6ed ymddangosiad  Riccardo Muti, yn cynnwys cyfansoddiadau gan Johann Strauss I, Johann Strauss II a'i frawd Josef Strauss.

Cafodd fersiwn modern o Gerddorfa Johann Strauss ei sefydlu gan André Rieu yn 1987. Arweiniodd taith Ewropeaidd gyntaf y gerddorfa at ddiddordeb o’r newydd mewn cerddoriaeth walts a chafodd y feiolinydd o’r Iseldiroedd ei alw’n ‘Brenin y Walts’ heddiw. Pan ofynnodd John Suchet iddo pam fod cerddoriaeth walts yn parhau i fod mor boblogaidd heddiw, ateb Rieu oedd ‘Syml. Mae Strauss yn gwneud i chi deimlo’n hapus.’

Er nad ydym yn gallu dathlu dechrau blwyddyn newydd yn ein ffordd arferol, mae WNO yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda llawn cerddoriaeth i chi.