Opera ar gyfer y genhedlaeth nesaf: y modd y mae Chwarae Opera YN FYW yn ysbrydoli plant
29 Ebrill 2025Efallai eich bod o’r farn na all hwyl a sbri i’r teulu fodoli ar y cyd ag opera. Mae Chwarae Opera YN FYW yn eich herio i ailfeddwl. Yn ogystal â chynnig perfformiad, mae ein digwyddiad yn cynnig profiad, ac mae dychymyg a natur chwareus plant wrth ei galon a’i graidd. Credwn ei fod yn gyfle gwych i deuluoedd gael profiad o opera a cherddoriaeth glasurol mewn amgylchedd hamddenol braf, a’i fod yn hynod ysbrydoledig i blant. Dyma sut.

Darganfod elfennau cudd y byd opera
Mae Chwarae Opera YN FYW yn eich galluogi i weld elfennau ‘cudd’ y byd opera trwy gyfrwng arddangosfeydd a gweithgareddau a gynhelir cyn y sioe. Er enghraifft, byddwn yn dod â gwisgoedd ysblennydd gyda ni, a ddefnyddiwyd mewn cynyrchiadau blaenorol, a byddant yn cael eu harddangos er mwyn i bawb allu eu mwynhau. Hefyd, bydd staff cefn y llwyfan wrth law i’ch addysgu sut i ddefnyddio ein gorsafoedd goleuadau a sain, gan roi cyfle ichi weld sut rydym yn creu effaith o bell ar y llwyfan. Rydym o’r farn y gall plant o bob oed elwa ar brofiadau fel y rhain, pa un a fyddant yn dysgu sgiliau newydd, yn gweld rhywbeth a fydd yn tanio angerdd creadigol, neu’n cael eu cyfareddu gan brofiad synhwyraidd.

Cerddorion a charwyr opera y dyfodol
Myth llwyr yw’r syniad mai rhywbeth i genedlaethau hŷn yw opera a cherddoriaeth glasurol. Yn ddi-os, gall plant eu mwynhau hefyd, a chredwn fod annog diddordeb yn y math hwn o gerddoriaeth yn rhywbeth gwirioneddol werth chweil i’w wneud. Yn wir, gallai annog eich plentyn i fagu awydd i ganu offeryn neu ymuno â chôr. Pwy a ŵyr, rhyw ddydd efallai y bydd eich plentyn yn ganwr neu’n gerddor proffesiynol! Neu efallai y bydd yn gwirioni ar wylio opera neu wrando ar gerddoriaeth glasurol. Mae’n anodd peidio â gweld y manteision, o ystyried bod astudiaethau’n dangos yn barhaus bod y math hwn o gerddoriaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad yr ymennydd ac iechyd meddwl.
Wrth gwrs, mae Chwarae Opera YN FYW yn llawn o gerddoriaeth glasurol draddodiadol, yn cynnwys gweithiau eiconig fel Lacrimosa o Requiem Mozart a Je veux vivre o Roméo et Juliette gan Gounod. Ond mae hefyd yn cynnwys gweithiau mwy bywiog fel Funiculì, Funiculà gan Denza (sef cân Eidalaidd a gyfansoddwyd i ddathlu agoriad y rheilffordd halio gyntaf ar Fynydd Feswfiws) ac addasiad cerddorol Ian Stephens o’r llyfr plant We’re Going on a Bear Hunt. Felly, rydym yn cynnig profiad perfformio pwerus a fydd yn gweddu i blant sy’n hoffi eistedd a gwylio yn ogystal â phlant sy’n dymuno codi ar eu traed a dawnsio!

‘Gobeithio y bydd y cymysgedd gwych sydd ar gael eleni – sef canu, dawnsio a chyfranogiad hollbwysig y gynulleidfa – yn ysbrydoli cariad mawr at gerddoriaeth fyw ynghyd â rhai o sêr cerddoriaeth glasurol y dyfodol!’
- Rebeka Peake, Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO
Hwyl a Sbri
Yn y bôn, mae plant eisiau cael hwyl a sbri. Dyna pam y bydd paent wyneb a digonedd o ddeunyddiau celf a chrefft ar gael cyn y perfformiad. Bydd plant, yn ogystal ag oedolion, yn cael eu hannog i greu eu ffyn hud eu hunain, gan eu cludo i fyd rhyfeddol lle gallant roi rhwydd hynt i’w dychymyg. Rydym hyd yn oed wedi trefnu helfa drysor – gweithgaredd perffaith i’r teulu!
Trwy gyfuno perfformiad gwych â gweithgareddau rhad ac am ddim, ein gobaith yw ysbrydoli’r plant ac ennyn eu chwilfrydedd ynglŷn â’r byd opera.

Dyma eich cyfle! Archebwch eich tocynnau ar gyfer Southampton a Plymouth nawr, neu ymunwch â ni yn 2026 ar gyfer Llongddrylliad!