Newyddion

Opera, arswyd, a drama ddiddiwedd Salomé

31 Hydref 2022

Mae'n Galan Gaeaf ac yma yn Opera Genedlaethol Cymru rydym yn hoffi dathlu'r unig ffordd y gwyddom amdano: gydag opera wrth gwrs. Wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Gymrawd Cyfarwyddo Jerwood, Gareth Chambers, mae Salome yn berffaith i'w gwylio ar noson arswydus.

Cafodd rôl Cyfarwyddwr Cysylltiol y WNO ei chreu mewn partneriaeth â'r Weston Jerwood Creative Bursaries programme sefydliad Jerwood i fynd i'r afael â'r diffyg unigolion o'r dosbarth gweithiol sy'n gweithio mewn rolau creadigol o fewn y diwydiant opera. Dyfarnwyd y rôl i Gareth Chambers ar sail ei brofiad fel dawnsiwr a choreograffydd, a bu i’w hanes personol a'i uchelgais ef yn ddewis perffaith i ddarparu prosiect digidol newydd sy'n archwilio trasiedi, rhywedd ac arswyd drwy ail-ddychmygu trasiedi un act Wilde. Holwyd ef am yr hyn a'i hysbrydolodd, a pham fod Salome yn ddewis perffaith iddo.

Daeth y syniad i gynhyrchu Salome fel ffilm opera fer i Gareth yn ystod sgwrs gyda'r mentor Syr David McVicar ynghylch rôl opera fel lens i weld y byd dryslyd yr ydym yn byw ynddo a gwneud synnwyr ohono. Mae cerddoriaeth hynod o sinematig Strauss a'r motifau sy'n cael eu hail adrodd a'u hamlygu o ddrama wreiddiol Wilde wedi golygu bod Salome yn parhau'n opera ddirdynnol sy'n denu, dros 115 o flynyddoedd ar ôl ei chyfansoddi.

Mae natur theatrig cerddoriaeth Strauss wedi achosi i Gareth fod eisiau talu teyrnged i arswyd clasurol mewn sinema, ac fe drodd at Hammer Horror am ysbrydoliaeth. Penderfynwyd defnyddio Castell Fonmon yn y Barri fel y lleoliad gothig ar gyfer y ffilm. Roedd gan y capel Oesoedd Canol, a ail grëwyd yn y lleoliad, furlun yn portreadu bywyd a marwolaeth Ioan Fedyddiwr hyd yn oed.

'Mae pobl dal yn holi eu hunain pam ei bod yn gwneud hyn? Ai awydd gwrthodedig ydyw? Dial am ei mam? Neu a yw'n gwneud beth bynnag mae'n dymuno? Does neb yn gwybod yr ateb mewn gwirionedd, dyna ddirgelwch drygioni'

Mae dirgelwch gweithredoedd Salomé i dorri pen Ioan Fedyddiwr y rhyfeddu Gareth, ac fe welwn fod y cymeriad dienw sy'n cael ei chwarae a'i ganu gan Helen Field yn gyfoethog, yn ddirgel ac yn obsesiynol. Waeth beth fo'i rhesymeg, mae Gareth yn defnyddio ei gweithredoedd i gynrychioli'r pwerus a'r cyfoethog sy'n camddefnyddio eu statws i gyflawni troseddau erchyll. 

'Mae'r themâu hoyw o fewn y ffilm yn ymateb i was capten y gwarchodlu, Narraboth. Credaf fod Wilde wedi creu'r cymeriad yma am reswm... mae'n cynrychiolir profiad byw cwiar.’

Roedd yn ddewis bwriadol i'r gwas ifanc fod yn un o'r ychydig gymeriadau yn y ddrama sydd ddim yn cael ei ddenu gan Salome. Pan mae ymdrechion Narraboth yn cael eu gwrthod gan Salome a'r capten wedyn yn cyllellu ei wddf ei hun, mae'r gwas yn amlwg mewn trallod ac yn galarnadu ei fod wedi rhoi 'blwch o bersawr a modrwy agat' i Narraboth unwaith. Fe ymddengys fod yna fwy na dim ond cyfeillach rhyngddynt. Yn aml mae'n anodd dod ar draws cynrychiolaeth cwiar fel hyn mewn opera, ac mae Gareth yn galarnadu'r diffyg cynrychiolaeth realistig mewn diwylliant pop prif ffrwd.

Mae Salome, Mystery of Evil gan Gareth Chambers, ar gael i'w gwylio nawr.