Beth yw’r peth cyntaf a ddaw i’ch meddwl pan feddyliwch am opera? Llwyfannau mawreddog, pobl yn bloeddio canu, brad dramatig, gemau fideo? Pan feddyliwn am gemau fideo, mae’n debyg y byddai’r mwyafrif ohonom yn meddwl am frwydro â gelynion, darnau arian rhithwir ac anturiaethau cyffrous – yn hytrach na llenni melfed a thenoriaid yn ymryson.
Yn rhyfeddol ddigon, mae opera a cherddoriaeth glasurol yn themâu amlwg mewn gemau fideo, ac mae sawl datblygwr o bwys wedi talu teyrnged i’r gelfyddyd. O’r bydoedd hynod beryglus a welir mewn gemau ‘chwarae rhan’ llawn antur i’r agweddau strategol sy’n perthyn i Civilisation gan Sid Meier, dyma ein hoff elfennau operatig mewn gemau fideo.
Final Fantasy VI – Lefel y Tŷ Opera.
Mae’r gyfres boblogaidd Final Fantasy gan Square Enix wastad wedi gwthio’r ffiniau, a doedd VI ddim yn eithriad. Hanner ffordd trwy gêm y chweched ran, mae’r chwaraewyr mewn tŷ opera.
Yma, rhaid i Celes – un o brif gymeriadau’r gêm – gamu i esgidiau Prima Donna Maria, sef targed cynllwyn herwgipio erchyll (cwbl nodweddiadol o opera!). Yn ystod y perfformiad, mae’r chwaraewyr yn tywys Celes wrth iddi ganu Aria di Mezzo Carattere, sef cân serch hyfryd a gaiff ei gosod yn erbyn nodweddion gweledol annisgwyl o emosiynol.
Er gwaethaf y cyfyngiadau o ran caledwedd, llwyddodd y dilyniant i daro tant pwerus gyda chwaraewyr. Yn ôl nifer o chwaraewyr, dyma un o’r enghreifftiau cynharaf o gyfleu gemau fideo fel celfyddyd – gan gyfuno cerddoriaeth, adrodd stori a chwarae gêm i greu profiad annisgwyl o emosiynol. A chan mai gêm ‘chwarae rhan’ Japaneaidd (JRPG) yw hi, buan iawn yr aiff pethau’n draed moch wrth i Ultros (octopws porffor braidd yn annymunol) darfu ar yr opera, gan arwain at achub gwyllt yng nghanol y perfformiad.
Hitman: Blood Money – Marwolaeth yn yr Opera.
Mae opera yn rhywbeth llawer tywyllach yn Hitman: Blood Money (2006) gan IO Interactive. Yma, mae’r chwaraewyr yn camu i esgidiau Asiant 47, sef asasin wedi’i glonio sydd â’r dasg o chwalu sefydliad cystadleuol.
Caiff un perwyl, sef ‘Gostwng y Llenni’, ei osod mewn tŷ opera mawreddog ym Mharis yn ystod ymarfer ar gyfer Tosca gan Puccini. Y targed? Alvaro D’Alvade, y tenor troseddol. Mae Alvaro, mewn cyferbyniad â’i gymeriad, yn chwarae rhan Mario Cavaradossi. Yng nghanol naws atgofus trac sain Tosca, fel plotiau cymhleth arferol y byd opera, rhaid i’r chwaraewyr drefnu ‘damwain’ – gan gyfnewid gwn ffug am wn go iawn!
Y gyfres Civilisation – y meistri clasurol.
Nid yw dylanwad opera yn gorffen gydag anturiaethau a ysgogir gan y stori. Yn Civilisation gan Sid Meier, gall y chwaraewyr adeiladu tai opera yn eu hymerodraethau, gan hybu diwylliant a hapusrwydd yn yr ymerodraethau a grëwyd ganddynt.
Yn wir, mae modd recriwtio ‘Pobl Wych’, megis cyfansoddwyr enwog fel Mozart, Beethoven a Vivaldi, er mwyn helpu’r chwaraewyr i gyflawni gogoniant artistig yn eu gwareiddiad.
Penderfynodd Christopher Tin, sy’n fwyaf enwog am gyfansoddi Baba Yetu (a enillodd Grammy ac a ddefnyddiwyd fel thema agoriadol ar gyfer Civilisation VI), fynd â’i ddoniau i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Ochr yn ochr â Cherddorfa WNO, perfformiodd Christopher Tin ei albwm Calling All Dawns, sy’n dathlu holl gyfnodau bywyd.
Wedi cael ysbrydoliaeth?
Mae gemau fideo, fel operâu, yn gyforiog o straeon diddorol a thraciau sain gogoneddus. Archwiliwch hud adrodd straeon y Tymor hwn gyda The Marriage of Figaro gan Mozart, neu gwyliwch Tosca, opera deimladwy a dirdynnol Puccini, yr Hydref hwn.