
Pan adroddir straeon ar y llwyfan, nid yw’n syndod y ceir hud a lledrith yn aml o ganlyniad, boed hynny drwy ysblander a hudoliaeth setiau a golygfeydd sy’n symud, canu gwefreiddiol, neu blot cyfareddol. Yn y byd opera, defnyddir hud a lledrith yn aml fel dyfais yn y plot i ddatrys sefyllfaoedd dyrys neu gymhlethu materion i rai cymeriadau, neu weithiau i ffurfio byd cyfan ble mae’r hyn sy’n ymddangos yn amhosibl yn dod yn rhan o realiti newydd. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn sicr yn hen gyfarwydd â’r arall-fyd a’r hudolus, felly beth am weld ble mae hud a lledrith i’w gweld yn ein hoff gynyrchiadau yn ddiweddar.

Mae Macbeth gan William Shakespeare yn ddrama arswyd berffaith ar gyfer addasiad operatig Giuseppe Verdi o’r ddrama. O’r dechrau, ceir awyrgylch drwgargoelus gyda’r gwrachod drygionus yn cynnull i gyfarch Macbeth a rhagdybio y daw’n frenin yn fuan. Mae eu proffwydoliaeth yn annog Macbeth i ymddwyn mewn ffyrdd anfaddeuol wrth i’r opera fynd rhagddi. Yn nes ymlaen yn y drydedd act, gwelwn y gwrachod yn dod â drychiolaethau i Macbeth, yn ei rybuddio i fod yn wyliadwrus o Macduff. Y nhw sydd yn chwarae rhan greiddiol yng nghwymp Macbeth yn y pendraw.

Mae opera Leoš Janáček o’r 1920au, The Makropulos Affair, yn dilyn Emilia Marty, merch sydd wedi byw dros dri chan mlynedd gyda help elicsir hudolus o fywyd. Gyda phob cenhedlaeth newydd, mae hi’n ail-greu ei hun gyda phersonoliaethau newydd, yn cyfareddu pawb gyda’i harddwch hyd nes mae’r dyheu yn ddigon i’w drysu nhw. Er hynny, mae ei chymeriadau lu yn dal i fyny â hi yn y pendraw, a gwelir mai anfarwolyn yw hi sydd wedi twyllo a swyno llawer.

Daethpwyd ag opereta Shostakovich o’r 1950au, Cheryomushki, yn fyw gan Opera Ieuenctid WNO yn 2022 dan y teitl Cherry Town, Moscow. Pan aiff popeth o chwith i Lidochka wedi iddi golli’r fflat a addawyd iddi gan y wlad, mae trigolion Cherry Town yn mynd â hi i ardd hud. Yn rhyfeddol, mae rheolwr creulon yr ystâd dai yn colli’i waith ac yn rhannu’r allweddi i’r fflatiau. Ar y fainc yn yr ardd hud y gwelwn Sergei yn cyfaddef ei deimladau i Lucy, ac yma hefyd mae Boris a Lidochka yn sylweddoli eu bod yn caru’i gilydd.

Yn ddi-os, The Magic Flute gan Mozart yw’r opera fwyaf poblogaidd sydd wedi’i britho â hud a lledrith. Perfformiwyd am y tro cyntaf yn 1971 ac mae’r opera yn llawn troeon hudol yn dilyn taith yr ifanc Tamino a Papageno wrth iddynt achub Pamina o grafangau ei mam, Brenhines y Nos. Er mwyn goresgyn heriau tawelwch, dŵr a thân, mae ffliwt hud a chlychau hud yn eu helpu ar hyd y ffordd, cyn i’r Frenhines a’i merched gael eu bwrw gan hud i berfeddion y nos.
Y Tymor hwn, down ag opera enwog ddiwethaf Mozart, The Magic Flute, i’r llwyfan. Dewch i weld Daisy Evans yn ailadrodd y stori mewn ffordd fywiog a chyfoes yng Nghaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth tan 27 Mai 2023.