Pan fyddwch yn gwylio perfformiad Opera Cenedlaethol Cymru, allwch chi ddim llai na rhyfeddu at ddawn y cantorion ar y llwyfan, ond beth sydd ei angen arnynt i gyrraedd yno? Cawsom gyfle i eistedd i lawr gyda dau aelod o Gorws WNO, Angharad Morgan (Soprano) a Francesca Saracino (Mezzo-Soprano) i ddysgu rhagor am eu taith i fyd hudol opera.
Pryd wnaethoch chi ddechrau canu gyntaf?
Francesca: Dechreuais hyfforddi fy llais yn 8 oed, pan ymunais â’m cwmni opera amatur lleol. Roeddwn wrth fy modd, ac fe arweiniodd hynny at i mi gael gwersi preifat tan oeddwn yn 16, pryd y gadewais fy nghartref i fynd i astudio yn Chetham’s School of Music ym Manceinion. Ar ôl mynychu’r ysgol, roeddwn eisiau seibiant o gerddoriaeth a dysgu, felly symudais yn ôl adref a gweithio fel gweithwraig dros dro am flwyddyn. Dilynwyd hynny gan bedair blwyddyn hapus yn Royal Birmingham Conservatoire, a chynigiwyd fy nghontract opera proffesiynol cyntaf i mi yn fy mlwyddyn olaf.
Angharad: Dechreuais hyfforddi gyntaf yn 18 oed, pan gefais wersi canu gyda Penny Ryan yn Abertawe tra’r oeddwn yn y chweched dosbarth - roedd ei brwdfrydedd a’i hyder ynof wedi fy helpu i ddarganfod fy nghariad at opera, gan fy annog i hyfforddi ymhellach. Fe’m hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle cefais gwblhau fy BMus a’m PGDip, cyn cymryd seibiant o hynny i fod yn rheolwr banc. Fe es ymlaen wedyn i gwblhau fy astudiaethau yn Academi Llais Ryngwladol Cymru.
Fyddwch chi’n dal i gael hyfforddiant lleisiol hyd heddiw?
Francesca: Rwy’n dal i gael hyfforddiant gan yr un athrawes llais ag oedd gen i yn y coleg cerddoriaeth, y fezzo-soprano, Christine Cairns, sydd wedi bod yn hanfodol i’m datblygiad dros y 15+ mlynedd diwethaf. Dros amser, rwyf wedi canfod trefn ar gyfer cynhesu fy llais sy’n gweithio i mi, ac sy’n ymgorffori’r llais yn ogystal â’r corff, y meddwl a’r ysbryd. Wrth fynd trwy gyfnod anodd yn fy mywyd, datblygais achos mor ddrwg o adlifiad asid (‘acid reflux’) fel y bu rhaid i mi roi’r gorau i ganu’n gyfan gwbl, am fisoedd lawer. Cyn gynted ag yr oedd bywyd yn dechrau gwella unwaith eto, fe ddechreuodd y cyflwr gilio, a chefais ganfod fy llais unwaith eto. Roeddwn yn gweithio’n agos gyda seicolegydd chwaraeon hefyd, a oedd yn help aruthrol. Fe gymerodd amser i mi sylweddoli, ond mae hunanofal yn hanfodol os mai eich corff yw eich offeryn: mae llesiant a chanu da yn mynd law yn llaw.
Angharad: Byddaf yn cael gwersi canu’n rheolaidd gyda fy athrawes, ynghyd â sesiynau hyfforddi rhyngddynt, ac os oes gen i rôl i’w dysgu, byddaf yn cael hyfforddiant yn y gwaith. Rwy’n ceisio sicrhau fy mod yn cynhesu fy llais yn ddyddiol, hyd yn oed pan nad wyf yn gweithio, er mwyn rhoi rhyw fath o strwythur i’m diwrnod. Rwyf wrth fy modd yn canu, felly hyd yn oed pan fydd fy mhlentyn bach yn sgrechian arnaf (mae’n fy nghasáu i’n canu!), rwy’n dal i ganu.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu cael gyrfa ym myd opera/canu?
Francesca: Gwnewch beth sy’n teimlo’n iawn i chi, beth bynnag y mae pawb arall yn ei wneud. Does dim taith benodol sy’n addas i bawb ar gyfer bod yn berfformiwr opera proffesiynol, felly dilynwch pa drywydd bynnag sy’n teimlo orau, a mwynhewch y daith.
Angharad: Dywedodd athrawes wrthyf unwaith ‘Y canu yw’r rhan hawsaf’. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hi’n ei feddwl, ond erbyn hyn rwy’n meddwl fy mod yn deall. Mae cymaint i’w ddysgu: techneg, perfformiad, testun, iaith, a gyda chymaint o bobl yn eich cynghori, mae gan bob yn ohonyn nhw syniadau gwahanol. Fy nghyngor i fyddai - byddwch yn driw i chi’ch hun, sylweddolwch beth ydych chi ei eisiau o ganu, gofalwch eich bod yn gwybod beth ydych chi’n canu yn ei gylch, a bod gennych ffydd ynoch eich hun.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau canu neu mewn archwilio’r byd opera, mae Opera Ieuenctid WNO yn darparu cyfleoedd ffantastig i berfformio ar gyfer rhai 8-25 oed. Os ydych wedi dechrau ar eich taith i fyd opera’n barod, mae rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO hefyd yn darparu profiadau i gantorion ifanc proffesiynol o fewn y Cwmni, sydd gyda’r gorau yn y byd.