
Trosolwg
Hyfforddodd Angharad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Academi Llais Rhyngwladol Cymru o dan warchodaeth Dennis O’Neill a Nuccia Focile. Tra yn WIAV, cafodd ei mentora gan Y Fonesig Kiri Te Kanawa, ac ar hyn o bryd, mae’n cael ei thiwtora gan Nuccia Focile. Cyn ymuno â WNO, roedd Angharad yn Artist Ifanc Jerwood yn Glyndebourne Opera Festival. Mae hi wedi gweithio gyda chwmni Opera Dinas Abertawe, yr Opera Project, a bu’n unawdydd llawrydd gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a cherddorfeydd enwog eraill.
Gwaith diweddar: Ail Chwaer Gardod Suor Angelica & Gianni Schicchi, Morwyn Briodas Gyntaf The Marriage of Figaro (WNO).