O George Wickham yn Pride and Prejudice i Simon Basset yn Bridgerton, mae ‘hwrgwn’ ac ‘oferddynion’ i’w gweld dro ar ôl tro yn ein diwylliant – sef dihirod trahaus y mae eu bywydau’n llawn trafferthion ac ymddygiad diegwyddor, ac sy’n ystyried bod ‘hel merched’ yn yrfa gydol oes yn hytrach nag yn gellwair hwyliog. Dyma rai o oferwyr ac oferddynion amlycaf y byd opera.
Y Dug yn Rigoletto
Mae Rigoletto gan Verdi yn cynnwys un o’r hwrgwn mwyaf ffiaidd trwy’r repertoire operatig – sef Dug Mantua, gŵr ‘dymunol’ sydd byth a hefyd yn bychanu ei wŷr llys trwy ddenu eu gwragedd. Mae Gilda, merch Rigoletto, yn mynd â bryd y Dug, felly mae’n cymryd arno ei fod yn fyfyriwr tlawd er mwyn denu Gilda ac ennill ei hymddiriedaeth, cyn ei thaflu i’r naill ochr a dewis Maddalena, gan dorri calon Gilda. Fel pe bai’n rhoi halen ar y briw, tua diwedd yr opera mae’r Dug yn canu ei aria enwog La donna è mobile, lle mae’n sôn am natur anwadal menywod.
Tom Rakewell yn The Rake’s Progress
Byddwch ar eich gwyliadwriaeth – yn ddi-os, mae Tom Rakewell yn ŵr i’w osgoi. Mae’r opera The Rake’s Progress (1951) gan Stravinsky yn sôn am y modd y trodd Tom Rakewell at fywyd yn llawn oferedd ac anfoesoldeb yn Llundain yn y Cyfnod Sioraidd. Daw Tom yn gyfaill i Nick Shadow, gŵr trawiadol a charismatig, ac yn fuan wedyn mae’n gadael ei wraig Anne, yn mynychu puteindai, yn priodi menyw farfog ac yn colli ei eiddo oherwydd twyll. Mae Nick Shadow yn datgelu mai’r Diafol ydyw mewn gwirionedd, ond mae hi’n rhy hwyr – mae Tom wedi colli’i bwyll ac mae’n marw yn Ysbyty Bedlam.
Eugene Onegin yn Eugene Onegin
Eugene Onegin yw’r cymeriad ofer a thrahaus yn addasiad operatig Tchaikovsky o nofel fydryddol enwog Alexander Pushkin, a gyfansoddwyd ym 1879. Uchelwr llawn syrffed o St Petersburg yw Eugene. Mae’n diystyru llythyr telynegol a didwyll a gafodd gan Tatyana, gan ddweud wrthi na ddylai fynegi ei hemosiynau mor rhwydd. Ar ôl sarhau ei gyfaill Lensky, mae Eugene yn ei anafu’n angheuol mewn ymladdfa, ac wrth geisio ennill llaw Tatyana flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n gweld ei fod yn rhy hwyr – mae hi wedi priodi ac mae hi wedi symud yn ei blaen hebddo.
Y Barwn Ochs yn Der Rosenkavalier
Mae’r Barwn Ochs yn Der Rosenkavalier yn rhywun y byddech yn ei osgoi pe baech yn ei weld mewn bar gan ei fod yn gymeriad trahaus, gwenieithus ac annymunol. Yn yr opera hon gan Richard Strauss, a gyfansoddwyd ym 1911, mae’r Barwn yn gefnder i’r Marschallin, a phan gaiff ei gyflwyno i’w ddyweddi newydd, sef merch ifanc o’r enw Sophie von Faninal, mae’r Barwn Ochs yn peri iddi ffieiddio ato trwy ei thynnu ar ei lin a mynnu ei bod yn berchen iddo ef. Ond nid yw hynny’n rhwystro’r Barwn rhag canlyn y forwyn Mariandel (sef Octavian mewn cuddwisg) – felly mae’r Marschallin yn awgrymu’n llawn tact y dylai’r Barwn ei heglu hi.
Don Giovanni yn Don Giovanni
Don Giovanni – yn ddi-os, mae’n haeddu ei le ar y rhestr hon! Y cymeriad hwn yn opera Mozart (1787) yw’r hwrgi clasurol – gŵr sy’n hoffi twyllo, cam-drin, a mercheta wrth gwrs. Sonnir am hyn oll yn y catalogue aria enwog a gaiff ei chanu gan Leporello, lle rhestrir pob un o’i goncwestau rhywiol (2065 i gyd!). Yn y pen draw, caiff ei lusgo i uffern oherwydd y pethau a wnaeth, yn cynnwys llofruddio tad Donna Anna, y Commendatore – cosb gwbl haeddiannol, yn wir.
Gallwch weld hwrgi WNO, sef Dug Mantua, mewn perfformiadau o’n cynhyrchiad newydd sbon danlli o Rigoletto, a fydd yn teithio o amgylch Cymru a Lloegr tan 16 Tachwedd 2024.