Newyddion

Ein hoff ddarnau corawl Nadoligaidd

21 Rhagfyr 2021

Mae amser mwyaf hyfryd y flwyddyn wedi cyrraedd, a pha ffordd well o ddathlu na gyda chasgliad o ddarnau corawl Nadoligaidd fel yr awgrymir gan David Doidge, Meistr Y Corws WNO. Byddwch yn adnabod wyneb David o sawl un o’n perfformiadau digidol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o Méditation o opera Massenet, Thaïs, i’n perfformiad diweddarafCantique de Jean Racine gan Fauré, ac fel Meistr Y Corws, ef yw’r person delfrydol i awgrymu ei hoff ddarnau:

Mae’n debyg nad yw’n fawr o syndod i unrhyw un bod ein rhestr yn dechrau â’r garol draddodiadol o Awstria, Still, Still, Still, yn benodol, trefniant Mack Wilberg y gwnaeth Corws WNO ac aelodau o’r Gerddorfa ei recordio gyda’i gilydd ar ôl misoedd ar wahân, ac y gwnaethom ei chyhoeddi arlein y Nadolig diwethaf. A’r rheswm y dewisodd David y darn?

‘Rwyf wrth fy modd â’r alaw syml wedi’i pharu â chyfeiliant llinynnau hardd, cyfoethog a pheraidd. Mae’n gwneud i’r garol swnio mor nefolaidd ac arallfydol, ac mae wir yn tynnu ar linynnau'r galon.’

Ei awgrym nesaf yw Somewhere in My Memory gan John Williams, o’r ffilm nodwedd Home Alone – dewis mwy modern, ond yn glasur Nadoligaidd serch hynny:

‘Eto, alaw wych ac mae ganddi’r holl gynhwysion cerddorol i godi hwyl yr ŵyl arnoch chi. Mae rhywbeth hynod ysgytwol am glywed lleisiau plant os unrhyw beth, ond yn enwedig gosodiad corawl fel hyn, pan mae’r neges yw un o obaith.’

Mae Gaudete, y garol Nadoligaidd sanctaidd y credir iddi ddyddio’n ôl i’r 16eg ganrif, yn ffefryn arall:

‘Mae sawl trefniant o’r garol hon, ond rwy’n hoff o’r rhai mwyaf syml, pan mae’r lleisiau’n symud gyda’i gilydd, fel trefniant Michael McGlynn. Rwyf wrth fy modd â’r ffordd mae’r darn hwn yn codi a’r neges hynod galonogol. Mae’r testun Lladin hefyd yn ychwanegu sylwedd a chymeriad i’r gwead, a all fod yn hynod gyffrous pan mae’n cael ei chanu’n dda,’

Mae David wedi cynnwys carol draddodiadol arall, sy’n hynod boblogaidd mewn cyngherddau, Clywch Lu’r Nef yn Seinio’n Un, oherwydd, yn ei eiriau ef:

‘Nid oes unrhyw beth mwy anhygoel nag agor y llyfr Carols for Choirs a chael pawb i ganu hon. Mae’r pennill olaf gyda’r gyfalaw mor bwerus a chalonogol; mae’n un o’r carolau gorau erioed yn fy marn i. Mae’n garol dragwyddol sy’n cipio gwir ysbryd y Nadolig.

Ffefryn olaf David yw O Ddwyfol Nos:

‘A yw hi’n Nadolig heb y darn gogoneddus hwn o gerddoriaeth? Eto, mae cyn nifer o drefniadau, nid oes gen i ffefryn amlwg, ond mae’r darn hwn yn gweithio’n dda ar sawl ffurf, yn enwedig ar gyfer côr. Mae'n dôn arbennig sy’n hynod effeithiol pan mae’r corws yn cyrraedd, ac rwyf wrth fy modd â’r ffordd mae’n dechrau’n dyner ac yna’n codi ac yn cyrraedd ei hanterth, sy’n gwneud i mi fod eisiau ei chlywed eto.

Er nad yw WNO yn medru eich cynhesu â Chyngerdd Dathlu’r Nadolig eto eleni, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwrando ar unrhyw un o’r uchod y Nadolig hwn, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl yn y flwyddyn newydd – Nadolig Llawen!