Efallai bod rhai pobl yn meddwl nad yw cerddoriaeth glasurol yn addas i blant. Wel, mae'n rhaid i ni anghytuno, ac mae ein sioe deuluol Chwarae Opera YN FYW! yn gwneud gwaith gwych o ddangos pam. Yn llawn cerddoriaeth wefreiddiol a hudolus, mae’r perfformiad hwn yn profi y gall opera a cherddoriaeth glasurol blesio cynulleidfaoedd o bob oed. Darllenwch ymlaen i ganfod ein hoff bigion cerddorol o’r sioe eleni…
Agorawd o The Flying Dutchman
Gan ein bod wedi ein llongddryllio eleni, roedd yn gyfle da i gynnwys darn o The Flying Dutchman Wagner, ac mae’r Agorawd yn addas iawn. Yn cychwyn yn stormus, trwy ddefnyddio llinynnau cythryblus, offerynnau pres isel a thrawiadau dramatig ar y timpani, gallwch ddychmygu eich bod ar fwrdd llong mewn gwyntoedd cryfion, yn teimlo ymchwydd y tonnau enfawr oddi tanoch. Caiff hyn ei gyferbynnu a’i ategu gan ddwy leitmotif (thema gerddorol) arall, sy’n cyfleu gwahanol deimladau a phrofiadau ar y môr. Felly drwy’r darn, rydych yn ymgolli’n syth yn ein stori anturus.
Dance of the Cygnets o Swan Lake
Daw’r Dance of the Cygnets eiconig gan Tchaikovsky o’r ballet y gellir dadlau ei fod yr enwocaf erioed, ac rydym wrth ein bodd gydag ef! Chwareus a gorfoleddus, gyda rhythmau staccato ailadroddus a defnydd urddasol o oboau a ffliwtiau, bydd y darn hwn yn sicr yn gwneud i blant fod eisiau codi a dawnsio.
Song to the Moon o Rusalka
Mae Song to the Moon Dvořák yn ddarn gwych arall o gerddoriaeth, sy’n cychwyn fel hwiangerdd, gyda chyfeiliant telyn a llinynnau tawel, tra bod ffliwtiau a chlarinetau yn gosod ansawdd ysgafn, rhyfeddol. Yn dod o’r opera Rusalka, sy’n adrodd hanes ysbryd dŵr sy’n dymuno bod yn ddynol gan ei bod wedi syrthio mewn cariad gyda thywysog, mae’r aria soprano hon yn mynegi edmygedd Rusalka ohono a’i dyhead i fod gydag ef. Chwerwfelys, emosiynol a chyda synnwyr o hudoliaeth, caiff cynulleidfaoedd eu gadael yn llawn edmygedd.
Emyn Pasg o Cavalleria rusticana
Ni allwn anghofio am Emyn Pasg Mascagni - cân bwerus o opera sydd â lle arbennig iawn yng nghalon WNO, fel yr un gyntaf i ni ei pherfformio. Tra bod plot Cavalleria rusticana yn canolbwyntio ar ddau gariad gyda’u carwriaeth yn arwain at ganlyniadau trychinebus, mae’r emyn hwn yn cyfleu ymdeimlad gwrthwynebol o gymuned, dathliad a heddwch. Mae llinynnau llawn, ynghyd ag offerynnau pres atseiniol a chwythbrennau sy’n ysgafnhau’r gwead yn llwyr, yn creu trefniant cerddorfaol swynol. Mae hyn, ynghyd â’r canu pwerus, sy’n cynnwys harmonïau Rhamantaidd cynnes, yn creu darn o gerddoriaeth sy’n fythgofiadwy.
Nessun dorma o Turandot
Yn olaf ond yr un mor bwysig mae campwaith Puccini, Nessun dorma. O’r opera Turandot, sy’n canolbwyntio ar dywysoges sy’n gofyn i gariadfeibion posibl fentro eu bywydau os ydynt am ei phriodi, mae’r aria denor hon yn portreadu natur benderfynol y prif gymeriad Calaf i ennill ei chalon. Wrth i’r angerdd gynyddu yn yr aria, daw’r canu'n fwy rhethregol, tra bod grym y gerddorfa yn cynyddu. Mae’r uchafbwynt mor anhygoel ac emosiynol fel y bydd yn cyffwrdd eich calon.
Yn awyddus i glywed yr holl ddarnau ysbrydoledig hyn o gerddoriaeth yn fyw, a mwy hyd yn oed? Ymunwch â ni mis yma ar gyfer Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad! yn Southampton neu Abertawe.