Newyddion

Pountney a Hanus yn aduno ar gyfer War and Peace

6 Awst 2018

Wrth i ni agosáu at yr ymarferion ar gyfer Tymor yr Hydref, daw ein cynhyrchiad agoriadol, sef War and Peace, â’r Cyfarwyddwr Artistig David Poutney a’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus ynghyd unwaith eto i gynhyrchu gwaith epig arall i WNO.

War and Peace yw’r gwaith ar y cyd diweddaraf gan arweinwyr artistig y Cwmni, sydd wedi derbyn canmoliaeth gan feirniaid a chynulleidfaoedd am eu gwaith blaenorol. Yn Nhymor yr Hydref 2017, eu prosiectau ar y cyd cyntaf i WNO oedd Khovanshchina a From The House of the Dead, ac fe gafodd y ddau ohonynt adolygiadau 5 seren gan y wasg genedlaethol a chanmoliaeth benodol am amlygu gwirionedd y gwaith. Roeddynt eisoes wedi gweithio gyda’i gilydd ar From The House of the Dead yng Ngŵyl Savonlinna, y Ffindir flwyddyn ynghynt ac, wrth ymuno â WNO, meddyliodd Tomáš gymaint o anrhydedd ydoedd i weithio gyda David a Chwmni WNO.

Mae’r cynhyrchiad uchelgeisiol hwn yn mynd â’r opera yn ôl i fersiwn sy’n nes at weledigaeth wreiddiol y cyfansoddwr Prokofiev o’r sgôr. Ei gynllun cychwynnol oedd rhoi ddehongliad agos o’r stori gan Tolstoy, ond rhoddwyd pwysau arno gan yr awdurdodau i’w wneud yn fwy gwladgarol er mwyn cynnal morâl yn ystod y rhyfel. Wedi’i seilio ar olygiad beirniadol newydd Katya Ermolaeva a Rita McAllister, cyflwyna cynhyrchiad newydd WNO olygfeydd ychwanegol o ddawnsfeydd gyda darnau dawns ac ariâu cyfoethog sy’n sicr o gyd-fynd â chryfderau Tomáš ac arddangos Corws a Cherddorfa WNO ar eu gorau. Ar y llwyfan ei hun, daw David â chasgliad enfawr o gymeriadau yn fyw, gyda nifer o ganwyr yn ymgymryd â sawl rôl a Chorws estynedig ar yr un raddfa â’r hyn a welwyd yn Khovanshchina y Tymor diwethaf. Bydd llwyr raddfa’r stori hefyd yn dod yn fyw drwy dafluniadau sy’n caniatáu i’r ddrama symud o gyfoeth y palas i faes brwydr goresgyniad 1812.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynhyrchiad, gallwch ymuno â David a Tomáš yn y diweddaraf o’n cyfres o ddigwyddiadau Mewnwelediad Opera lle byddant yn trafod War and Peace mewn mwy o fanylder, gan roi i chi gefndir y cynhyrchiad a rhannu ychydig o wybodaeth o du ôl i’r llenni ynglŷn â sut y cydweithiant i ddod ag opera o’r fath raddfa i’r llwyfan.