Newyddion

Puccini ar bapur – beth sydd mor fythol ynglŷn â’i gerddoriaeth?

2 Awst 2022

Mae Giacomi Puccini wedi ysgrifennu rhai o’r operâu mwyaf poblogaidd a gyfansoddwyd erioed. Cânt eu perfformio’n rheolaidd ac maen nhw’n llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd mawr a brwd. Ond pam? Yma, rydym yn archwilio’r cliwiau sydd ynghudd yn ei waith cerddorol er mwyn darganfod pam y caiff cynifer o bobl eu denu at ei gerddoriaeth, a beth sydd mor atyniadol ynglŷn â’i operâu.

Y nodwedd amlycaf sy’n perthyn i’w gerddoriaeth yw ei symlrwydd telynegol. Gall pob un ohonom, fwy neu lai, hymian un o alawon cyfarwydd Puccini – er enghraifft melodi dyner O mio babbino caro o’i opera Gianni Schicchi neu nodau uchel anterthol Nessun dorma o’r opera Turandot. Mae cerddoriaeth Puccini yn frith o alawon cofiadwy.

Mae hyn yn arbennig o drawiadol os ystyriwn ni’r cyfnod yr oedd yn cyfansoddi ynddo. Yn niwedd y 1800au a dechrau’r 1900au, roedd alawon bachog fel pe baen nhw’n diflannu oddi ar y llwyfan cerddorol, gyda mwy a mwy o gyfansoddwyr yn troi at rythmau anghyfartal a harmonïau dryslyd, anesmwyth.

Ond daliodd Puccini ei dir a pharhau i gyfansoddi gweithiau hygyrch a phersain. Eto i gyd, daliodd ei afael ar lais cyfansoddi gwreiddiol – allwch chi ddim peidio ag adnabod gwaith Puccini. Mae’r cyfuniad hwn o hygyrchedd a gwreiddioldeb yn un rheswm pam y mae ei gerddoriaeth yn parhau i ffynnu hyd heddiw. Enghraifft wych yw’r aria Quando me’n vo o La bohème.

Yn y rhan hon o’r opera, mae Musetta yn canu aria narsisaidd yn datgan ei harddwch trawiadol. Mae hi’n myfyrio ar y modd y mae pawb yn oedi i edrych arni wrth iddi gerdded i lawr y stryd ar ei phen ei hun. Ac mae hi’n canu’r geiriau hunanglodforus hyn ar alaw felodaidd, gyda feiolinau yn ei hategu yn aml, gan esgyn sawl gwaith i frig eithaf ei hamrediad lleisiol.

Gan fod yr alaw hon mor eiconig, mae ganddi le amlwg mewn diwylliant poblogaidd. Fe’i defnyddiwyd yn record boblogaidd Della Reese, Don’t You Know?. Cyrhaeddodd y gân hon rif un yn Siart Rhythm a’r Felan yr Unol Daleithiau. Yn wir, fe wnaeth La bohème ysbrydoli sioe gerdd roc Jonathan Larson, RENT, yn ei chyfanrwydd – sioe a berfformiwyd ar Broadway am fwy na deuddeg mlynedd.

Gan gadw hyn oll mewn cof, mae operâu Puccini yn ddelfrydol i bobl sy’n dymuno cael eu profiad cyntaf o opera, ac mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o La bohème yn fan cychwyn gwych.

Mae holl berfformiadau WNO yn cynnwys uwchdeitlau Saesneg (cyfieithiad o’r geiriau a ddangosir uwchben y llwyfan – dyna yw uwchdeitlau.) Hefyd, ceir uwchdeitlau Cymraeg pan fyddwn yn perfformio yng Nghymru, felly ni fydd angen ichi boeni na allwch ddeall ystyr y caneuon. Ymhellach, does gan WNO ddim rheolau arbennig o ran dillad, felly ni fydd angen ichi boeni am wisgo dillad anaddas.

Mae prisiau tocynnau La bohème yn dechrau am gyn lleied â £13, felly beth am ddod draw i glywed cerddoriaeth delynegol Puccini â’ch clustiau eich hun yr Hydref hwn. Bydd y cynhyrchiad yn teithio i Gaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southamptom a Rhydychen rhwng 25 Medi a 3 Rhagfyr.