Roedd Giuseppe Verdi a Victor Hugo yn artistiaid, yn chwyldroadwyr gwleidyddol ac o dan warchae'r llysoedd sensro, hollbresennol, fel ei gilydd. Er y cyfyngwyd ar eu cynnwys, llwyddasant i gyfleu eu drwgdybiaeth o'r rhai hynny mewn grym drwy eu hymchwydd artistig. Gwaharddwyd drama Le roi s'amuse ar ôl un perfformiad ac yn ddiweddarach daeth yn Rigoletto, Verdi.
Collodd y ddau eu merched hefyd, boddodd merch Hugo mewn damwain drasig ar gwch a bu farw merch hynaf Verdi yn ifanc. Efallai, nid yw'n syndod felly bod thema'r merched yn cael ei chynrychioli mor aml o fewn eu gwaith. Mae'n debyg bod cariad Rigoletto at Gilda wedi ennyn teimladau cryf hefyd, gan fod yr angen tanbaid i'w hamddiffyn gyda'r diweddglo trasig yn ffynhonnell o gatharsis i'r ddau.
Cymaint ag y gallant gydymdeimlo â Rigoletto, gallant hefyd dynnu rhai cymariaethau gyda'r Dug gan fod gan y ddau ohonynt gariadon a gwragedd a achosodd anghydfod ymysg eu cyfoedion cymdeithasol. Mae hyn yn arwain at y rheswm pam fod y ddau ddyn yn gallu cyfleu dwyster y cymeriad dynol i'r fath raddau yn eu gwaith.
Gan roi eu bywydau personol i un ochr, ac edrych ar eu gwaith fel gweledyddion, mae sylw'r beirniad theatr enwog, George Bernard Shaw, 'bri mwyaf Victor Hugo fel bardd llwyfan oedd darparu libreti i Verdi', yn ddiwyro gan fod y ddau heb os yn feistri yn eu meysydd eu hunain. Ar wahân i newid y lleoliad a'r enwau oherwydd rhesymau sensro, cadwodd Verdi yn driw i blot a chymeriadau Hugo.
Canlyniad hyn oedd bod Victor Hugo yn eiddigeddus o sut oedd Verdi wedi gallu dweud ei stori. Ar ôl clywed y pedwarawd Bella figlia dell’ amore, ysgrifennodd:
If I could only make four characters in my plays speak at the same time, and have the audience grasp the words and the sentiments, I would obtain the very same effect.
Dywed Cameron Mackintosh, cynhyrchydd Les Miserables, un o weithiau eraill Hugo a addaswyd, sydd wedi llwyddo, y tro hwn fel sioe gerdd, 'mae ei gryfder yn gorwedd yn nealltwriaeth Hugo o gymeriadau, sy'n pontio cenedlaethau a diwylliannau.' Y rheswm y tu ôl i lwyddiant parhaus Rigoletto a'r hyn sy'n cysylltu'r ddau ddyn â'i gilydd yw'r ffaith eu bod yn gweld bodau dynol yn hytrach na chymeriadau, llinellau niwlog yn hytrach na'r du a'r gwyn, aethant ati i greu personâu aml-haenog, cywrain ar gyfer y llwyfan. Mae'r Dug yn swynol ond eto'n nwydwyllt, mae Rigoletto ei hun yn ddirmygus ond yn achub ei gam yn ei gariad at Gilda.
Er y gallwch ddweud fod y ddau artist yn y pen draw yn canfod heddwch, wrth i Verdi fabwysiadu merch ei gefnder ac yn ei cherdded at yr allor fel y byddai wedi gwneud gyda'i ferch ei hun. Fodd bynnag, nid oedd Hugo, yr un mor lwcus, gyda'i deulu a'i feistres yn marw cyn diwedd ei oes, ei unig ferch a oedd ar ôl yn cael ei hanfon i wallgofdy, gan olygu mai'r oll oedd ganddo yn weddill oedd ei gariad tragwyddol; yr un at ei wlad, 'Woe to anyone who harms France! I do declare I will die a fanatic patriot.' A dyna fu ei hanes.