Yn gynharach y mis hwn, dathlodd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, ei ben-blwydd yn 60 oed, yn ogystal â 30 blynedd gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Bu i ni siarad ag o er mwyn dysgu mwy am ei uchafbwyntiau a phrofiadau gyda'r Cwmni:
Dywedwch wrthym beth wnaeth eich arwain at ymuno â WNO
Mae'r stori'n dechrau gyda Syr Brian McMaster, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO ar y pryd, yn gwrando ar ddarllediad gan Radio 3 o fy mherfformiad cyntaf yn y DU - yng Ngŵyl Buxton yn 1988. Penderfynodd fy ngwahodd i arwain yng Nghymru, a chyrhaeddais yno am y tro cyntaf ym mis Chwefror 1990.
The Barber of Seville oedd eich perfformiad cyntaf gyda WNO, ar 6 Mawrth 1990. Sut brofiad oedd hynny?
Cefais fy mhlesio'n fawr gyda'r ffordd roedd y Corws yn mwynhau bod ar y llwyfan, yn enwedig yn y cynhyrchiad hwnnw a gafodd ei gyfarwyddo gan Giles Havergal, oedd yn fywiog, ac yn bwysicach oll, mewn undod â cherddoriaeth Rossini. Rwy'n cofio cael 10 munud o baratoi cyn y cynhyrchiad, gyda'r Corws yn 'gosod' y llwyfan a'r prif actorion yn paratoi fel eu bod nhw'n dod o'r ‘commedia dell’ arte’. Felly camais ar y llwyfan yn fy nghôt gynffon, yn cymryd arnaf i roi cyngor cerddorol i'r amrywiaeth o bobl oedd ynghlwm â'r cynhyrchiad, a mwynheais y munudau ffraeth hynny cyn cychwyn y sioe. Rwy'n cofio ymateb arbennig gan y gynulleidfa hefyd, rhywbeth rwyf wedi ei gael yng Nghymru bob amser.
Ers hynny mae Cymru wedi cymryd lle yn eich calon, ac rydych wedi dysgu Cymraeg hyd yn oed. Beth oedd mor arbennig am Gymru i chi fod eisiau ei galw'n gartref i chi?
Pan gefais gynnig swydd Cyfarwyddwr Cerddorol yn ôl yn 1991, sylweddolais yn fuan wedi hynny bod angen i mi fyw lle roeddwn yn gweithio, oherwydd patrwm penodol yr ymarferion a pherfformio. Nid oedd yn benderfyniad hawdd gan y byddai'n ffordd wahanol o fyw, ond penderfynais fynd amdani a symud yn 1992. Cychwynnais deulu fy hun, a chael dau o blant hanner Cymraeg, ac roeddwn yn teimlo'r eisiau i wneud ymrwymiad tymor hir â Chymru, ei diwylliant cyfoethog, hunaniaeth a'i hiaith.
Pe byddech chi'n gallu teithio'n ôl mewn amser, a rhoi cyngor i chi eich hun yn 30 oed, beth fyddech chi'n ei ddweud a pham?
Credaf y byddwn yn dweud wrthyf fi fy hun i ymddiried mwy mewn pobl. Ar ochr fwy artistig, byddwn yn cymryd dull gwahanol at yr ymarferion cyntaf. Ar y pryd, roeddwn eisiau popeth fod yn iawn, o'r ymarfer cyntaf un, ond nawr, ar ôl dod i adnabod fy nghydweithwyr yn WNO yn well, rwy'n gwybod fod rhaid pethau yn mynd i'w lle'n naturiol yn hwyrach ymlaen mewn ymarferion, heb orfod micro-reoli bob rhan o bob bar. Ond wrth gwrs mae hyn yn dod gyda phrofiad, a gyda gwell dealltwriaeth o'r naill a'r llall fel cerddorion.