Mae byd y sinema wedi cynhyrchu rhai o'r darnau cerddorol diweddar mwyaf adnabyddus, ond weithiau dim ond y clasuron fydd yn gwneud hynny. Cyn i Gerddorfa WNO fynd ar y llwyfan ac archwilio'r bydysawd yn Chwarae Opera YN FYW: Gorymdaith i'r Gofod, aethom ati i bori trwy hanes ffilmiau er mwyn dod o hyd i'n hoff ddarnau clasurol a oedd yn gefndir i'r golygfeydd mwyaf cofiadwy.
Mae ffilmiau Stanley Kubrick wedi llwyddo i ddal eu tir ac yn parhau i gael eu hystyried ymysg y ffilmiau gorau erioed, gyda'r cyfarwyddwr yn aml yn cael ei ystyried yn feistr ar ei grefft. Llwyddodd y ffilm 2001: A Space Odyssey i ddal yr holl gyffro a’r ansicrwydd a oedd yn gysylltiedig â theithio rhyngblanedol ym 1968 pan gafodd ei rhyddhau, flwyddyn cyn glaniadau’r lleuad, ac mae’r effaith a gafodd ar y genre ffuglen wyddonol yn parhau bron yn ddigyffelyb.
Caiff y darnau cerddorol a ddewisodd Kubrick eu cysylltu bron yn ddieithriad â'r ffilm erbyn hyn, ac mae cyfeiriadau at rai o’r golygfeydd eiconig wedi’u gweld ym mhob rhan o'r diwylliant pop ers rhyddhau’r ffilm. Mae'r trac sain wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar gerddoriaeth glasurol, yn cynnwys The Blue Danube Waltz gan Johann Strauss.
Cewch glywed ffanffer toriad gwawr allan o Also sprach Zarathustra Richard Strauss yn ein sioe ar gyfer teuluoedd, Chwarae Opera YN FYW, yn Nhymor yr Hydref.
Daeth y nofel A Clockwork Orange, o waith Anthony Burgess, yn glasur cyfoes pan gyhoeddwyd hi ym 1962. Addasodd Stanley Kubrick y stori ar gyfer ffilm ym 1971 gan ddefnyddio sawl darn o gerddoriaeth glasurol drwy gydol ei gyflwyniad o gymdeithas dystopaidd. Mae gan Alex DeLarge, y prif gymeriad hynod dreisgar, obsesiwn â cherddoriaeth glasurol, ac mae sawl un o olygfeydd milain y ffilm wedi eu seilio ar gyfansoddiadau megis agorawdau Rossini i operâu The Barber of Seville a William Tell, ac yn fwyaf enwog Symffoni Rhif 9 Beethoven.
Mae'r ffilm arswyd ffuglen wyddonol Alien, o waith Ridley Scott, wedi dod yn ffefryn gan gefnogwyr. Tra bod dangosiad cyntaf y ffilm wedi dychryn cynulleidfaoedd ac wedi esgor ar ddilyniannau a rhaghanesion diweddarach yn y genre ffuglen wyddonol arswyd, mae’n cynnwys un o ddarnau mwyaf cysurlon cerddoriaeth glasurol. Yng nghanol sgôr wreiddiol iasol Jerry Goldsmith, mae Eine kleine Nachtmusik gan Mozart yn ymddangos fel moment ysgafn o seibiant o'r awyrgylch gormesol a chlawstroffobig sy'n nodweddu gweddill y ffilm.
Yn y dilyniant a gafwyd gan Ridley Scott yn 2017 i’r Blade Runner gwreiddiol, clywn bytiau byr o Peter and the Wolf, a gyfansoddwyd gan Sergei Prokofiev, wrth i’r prif gymeriad K danio'r cydymaith holograffig, JOI. Yn stori Peter and the Wolf, mae'r hwyaden a'r aderyn yn dadlau. Mae’r aderyn yn gwatwar yr hwyaden, gan ofyn sut y gall fod yn aderyn go iawn os na all hedfan. Mae'r hwyaden yn ei ateb yn hyf, gan ofyn sut y gall fod yn aderyn os na all nofio. Yr un yw hanfod Blade Runner: 2049: Beth sy’n gwneud bod dynol yn ddynol?
Tra bod cyfansoddwyr megis Hans Zimmer a John Williams yn parhau i gyfansoddi rhai o sgorau mwyaf emosiynol ac epig byd y ffilm, mae’r defnydd o ddarnau clasurol yn dal i hybu’r straeon a dyfnhau ein dealltwriaeth o’n hoff ffilmiau ffuglen wyddonol. Os hoffech ddod i wrando ar gyfres o unawdau, ensemblau a gweithiau corawl, yn ogystal â rhai o sgorau mwyaf adnabyddus y sinema, ymunwch â ni yn Chwarae Opera YN FYW: Gorymdaith i'r Gofod, sydd ar daith yn yr Hydref.