Newyddion

Cariadon Trist eu Tynged yn y Theatr a’r Neuadd Gyngerdd

19 Hydref 2023

From forth the fatal loins of these two foes
A pair of star-crossed lovers take their life,
Whose misadventured piteous overthrows
Doth with their death bury their parents’ strife

Dyfyniad o Ragymadrodd Romeo and Juliet gan William Shakespeare

Mae bron pawb yn gyfarwydd â drama Romeo and Juliet gan William Shakespeare, stori ddiamser am ddau gariad arddegol drwg eu tynged sy’n gorffen gyda’u marwolaethau trychinebus. Mae’r ddrama wedi ysbrydoli addasiadau di-rif mewn ffilm a theledu gan ymddangos yn aml hefyd mewn cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd (A yw Love Story gan Taylor Swift neu Fever gan Peggy Lee yn gyfarwydd?). Cyn i Gerddorfa WNO berfformio Agorawd Ffantasi Romeo and Juliet gan Tchaikovsky yn ein cyngerdd Cariad a Cholled sydd i ddod maes o law, dewch i ni gael golwg ar rai o’r gweithiau cerddorol eraill a gafodd eu hysbrydoli gan y ddrama ar gyfer y neuadd gyngerdd, ballet, a’r byd opera.

Ballet gan Prokofiev, Romeo and Juliet

Cafodd sgôr y cyfansoddwr o Rwsia, Sergei Prokofiev, ar gyfer Romeo and Juliet ei gyfansoddi fel ballet, a’i berfformio am y tro cyntaf yn Brno, y Weriniaeth Tsiec, ym 1938. Roedd y ffaith bod Prokofiev wedi newid diweddglo trychinebus y stori i’r gwrthwyneb, lle’r oedd Romeo a Juliet yn goroesi, wedi cythruddo’r awdurdodau Sofietaidd. Cafodd ei orfodi’n ddiweddarach i ailgyflwyno diweddglo bwriadedig gwreiddiol Shakespeare - a pherfformiwyd y fersiwn newydd yn Leningrad (St Petersburg bellach) ym 1940 lle derbyniodd gymeradwyaeth feirniadol yn y diwedd ac ennill Gwobr Stalin. Mae ei Dance of the Knights enwog yn adnabyddus fel arwyddgan rhaglen The Apprentice y BBC.

Roméo et Juliette gan Berlioz 

Ym 1839, ysgrifennodd y cyfansoddwr Ffrengig, Hector Berlioz, un o’i gyfansoddiadau mwyaf ar gyfer unawdwyr, corws a cherddorfa, symphonie dramatique wedi’i seilio ar stori Romeo a Juliet. Ymhlith y gynulleidfa ym mherfformiad cyntaf y gwaith yn y Paris Conservatoire, oedd Richard Wagner, a fynegodd yn ddiweddarach y dylanwad sylweddol y byddai’r darn yn ei gael ar ei opera Tristan und Isolde, gan gyflwyno’r gwaith i Berlioz er anrhydedd.  

I Capuleti e i Montecchi gan Bellini a Roméo et Juliette gan Gounod

Wedi’i pherfformio am y tro cyntaf ym 1870 ym Moscow, mae agorawd gerddorfaol Tchaikovsky, sy’n seiliedig ar drasiedi y cariadon drwg eu ffawd, yn ddarn clasurol ymhlith repertoire y cyngerdd. Yn gyfartal o ran angerdd a drama, mae thema cariad y darn yn ffefryn amlwg mewn llu o ffilmiau a rhaglenni teledu. Enghraifft ddiweddar o hyn yw pennod o’r gyfres Ghosts y BBC, lle mae thema cariad Tchaikovsky yn ffurfio’r cyfeiliant i gyfarfod rhamantus a rennir rhwng Fanny a chorff di-ben Humphrey yng ngerddi Button House.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i brofi gwefr perfformiad Cerddorfa WNO o Agorawd Ffantasi Romeo and Juliet Tchaikovsky, ynghyd â Phedair Cân Olaf gwefreiddiol Strauss a Symffoni Rhif 1 rymus Brahms. Cynhelir Cariad a Cholled yn Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru, ddydd Sul 29 Hydref 2023 am 3pm. 

First performed in 1870 in Moscow, Tchaikovsky’s orchestral overture based on the tragedy of the star-crossed lovers is a classic piece in the concert repertoire. Passionate and dramatic in equal measure, the piece’s love theme is a particular favourite in countless films and TV programmes. A recent example is an episode of the BBC series Ghosts, where Tchaikovsky’s love theme forms the accompaniment to a romantic tryst shared between Fanny and Humphrey’s headless body in the gardens of Button House.

Don’t miss your opportunity to experience the thrill of WNO Orchestra’s performance of Tchaikovsky’s Romeo and Juliet Fantasy Overture, along with Strauss’s magnificent Four Last Songs and Brahms’s mighty Symphony No 1. Love and Loss will take place at BBC Hoddinott Hall, Wales Millennium Centre, on Sunday 29 October 2023 at 3pm.