Cariad a Cholled Cerddorfa WNO
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Prynhawn o felodïau rhamantaidd a hyfrydwch pur
O ganlyniad i gaead dros dro Neuadd Dewi Sant, bydd cyngerdd Cyfres Caerdydd Clasurol Cerddorfa WNO ar 29 Hydref, 3pm nawr yn cael ei gynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar yr un diwrnod.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ebostio deiliaid tocyn ac mae nifer bach o docynnau dal ar gael i archebu.
Tchaikovsky Romeo and Juliet Fantasy Overture
Richard Strauss Four Last Songs
Brahms Symffoni Rhif 1
Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddrama drasiedi William Shakespeare, bydd Cerddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn hwylio’u ffordd drwy’r berthynas drwblus rhwng y Montagues a’r Capulets, gan greu darlun byw o gariad trychinebus, tynged ac aberth yn Romeo and Juliet Fantasy Overture gan Tchaikovsky.
Yn awdl i fywyd a’i holl ddwysterau, mae Four Last Songs Strauss yn waith olaf ysblennydd ac yn ffarwél emosiynol i’r byd. Yn gynnes, doeth a myfyriol mewn natur, bydd y casgliad hynod boblogaidd hwn o ganeuon yn eich gadael wedi’ch rhyfeddu, ac yn gweld y soprano Chen Reiss yn ymuno â Cherddorfa WNO am ei pherfformiad cyntaf gyda’r Cwmni.
I gwblhau’r rhaglen, cawn un o symffonïau gorau’r traddodiad Awstriaidd-Almaenaidd, sef Symffoni Rhif 1 Brahms. Mae’n cyfuno cywreinrwydd ffiwg gan Bach ag egni un o gampweithiau Beethoven. Dyma ddarn sydd fel ffynnon ddiwaelod o bleser llwyr a dawn ddramatig, yn llawn troeon annisgwyl, cyffrous a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd.
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr, gan gynnwys un egwyl
Cyflwynwyd fel rhan o Gyfres Caerdydd Glasurol