Mae Rigoletto'n cynnwys yr holl elfennau y byddech chi'n disgwyl eu cael mewn ffilm lwyddiannus ag enwogion o fri ynddi: dial, dyheu, bradychu ac, wel, cymeriadau y gellid eu disgrifio fel rhai Hollywood gyda H fawr. Heb enwi neb, mae'r Dug - un chwantus sy'n camddefnyddio ei rym, yn ein hatgoffa o rai pobl sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar.
Efallai mai'r ffilm Taken sy'n cymharu orau, gyda merch wyryfol yn cael ei herwgipio, tad yn benderfynol o ddial ac anrhydedd y ferch yn y fantol; ar fin cael ei masnachu i werthu ei phurdeb i'r sawl sy'n cynnig y swm uchaf. Mae'r rhai sydd â grym yn mynnu cael yr hyn maent yn ei ddymuno yn y modd maent yn ei ddymuno. Yn y ffilm, fodd bynnag, mae cymeriad Liam Neeson yn llwyddo i atal yr anochel rhag digwydd. Nid yw Rigoletto mor ffodus yn yr opera.
Mae'n anodd credu bod gan Disney, Pixar ac opera lawer yn gyffredin, ond mae stori Finding Nemo, sef stori tad yn chwilio am ei fab, yn ein hatgoffa o ymchwil daer Rigoletto am Gilda, sydd wedi ei herwgipio. Gellir gweld tebygrwydd cryf yn Beauty and the Beast hefyd, o ran y ferch gariadlon yn ildio ei rhyddid er mwyn rhywun arall. Mae hunanaberth dadleuol Gilda er mwyn y Dug anffyddlon yn deffro atgofion ynghylch Bruce Willis yn aros ar ôl i ffrwydro'r asteroid sy'n carlamu tua'r ddaear yn Armageddon, er bod yr achos y tu ôl i'w aberth ef yn llawer mwy teilwng, o ystyried ei fod yn achub dynolryw yn hytrach na merchetwr mynych.
Mae'n bosib dweud bod y sioe deledu Stanger Things yn debyg hyd yn oed - o ran y naws dywyll a chymeriad Winona Ryder yn gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn ei mab rhag yr anghenfil dychrynllyd o'r Upside Down World. Pwy allai anghofio'r drydedd gyfres lle mae Chief Jim Hopper yn or-amddiffynnol o'i ferch fabwysiedig, Eleven. Eto byth, nid yw hyn mor ddrwg â Rigoletto sy'n cadw Gilda yn gwbl ar wahân, sy'n ein hatgoffa ni fwy o Princess Fiona yn Shrek.
Ers cyn cof, mae dynion yn aml wedi defnyddio pa bynnag ddull y gallant i ennill cariad yr un o'u dewis, felly nid y Dug yw'r cyntaf i ddefnyddio cuddwisg i ennill serch rhywun. Fodd bynnag, mae cuddwisg bob amser yn cynnig tro rhagorol yng nghynffon stori, fel yn y fersiynau newydd o'r clasuron Shakespearaidd, She’s the Man a Shakespeare in Love. Yn yr opera, mae Gilda'n syrthio am rywun sy'n ymddangos iddi hi fel myfyriwr heb yr un geiniog, ond rydym wedi ailwampio ychydig ar hyn yn ein fersiwn ni fel bod y Dug yn ffugio bod yn beilot - a Gilda, yn amlwg, wrth ei bodd â dyn mewn iwnifform. Wedi'r cyfan, byddai unrhyw stori garu yn anghyflawn heb ambell i ymgais aflwyddiannus ar ramant a rhywun yn gwneud llanast o guddwisg.
Mae Rigoletto yn cynnwys pob un o'r themâu mawr sy'n creu 'blockbuster' hynod lwyddiannus, ond yn cysylltu'r rhain oll y mae'r cwlwm teuluol anorchfygol a'r berthynas annwyl rhwng y tad a'r ferch. Yn y pen draw, mae'r awydd cryf i ddial ac, wrth gwrs, y diweddglo dychrynllyd yn curo unrhyw dro dramatig a welsoch erioed. Os ydych yn hoff o unrhyw un o'r ffilmiau y soniwyd amdanynt uchod, rydym yn addo y byddwch wrth eich bodd â Rigoletto, felly dewch i fwynhau ychydig o hud Hollywood ar y llwyfan.