Newyddion

Mae’r pethau gorau yn dod mewn tri

4 Mehefin 2024

Mae ein cynhyrchiad arfaethedig o Il trittico yn rhoi cyfle prin i chi weld y tair o operâu Puccini, Il tabarro, Suor Angelica a Gianni Schicchi, mewn un noson fel y bwriadodd y cyfansoddwr gwych.

Dywedir yn aml fod ‘y pethau gorau yn dod mewn tri’; mae’r syniad o ‘rym tri’ wedi cyfareddu a swyno pobl ar draws y byd ac mae’n bresennol yn ein bywydau bob dydd, fel brecwast, cinio a swper, goleuadau traffig a lliwiau sylfaenol i enwi dim ond rhai. Mae ‘grym tri’ yn egwyddor sy’n awgrymu bod pethau sy’n dod fesul tri yn fwy boddhaol, a chredwn y bydd Il trittico yn bendant yn bodloni eich chwant am opera.

Nid y triawd hwn o operâu un act yw'r unig beth y dylid ei fwynhau fel tair; o ffilmiau The Mighty Ducks i hufen iâ Neopolitan, gadewch i ni archwilio rhai triawdau poblogaidd eraill.

Mae’r drioleg ffilm yn cael ei charu gan gefnogwyr ffilm a gyda thriawdau epig fel The Lord of The Rings, The Godfather a Back to the Future, nid yw’n syndod bod triawdau mor boblogaidd. Bu hyd yn oed fersiwn gerddorol o Back to the Future ac yn ddiweddar comisiynwyd fersiwn operatig o The Lord of the Rings, sy’n cynnwys aelodau o Gorws WNO. Mae rhai triolegau mor boblogaidd, fel bod y stori'n cael ei chodi flynyddoedd yn ddiweddarach i roi ychydig mwy i gefnogwyr, fel Indiana Jones a Jurassic Park. Trioleg James Dean; East of Eden (1955), Rebel Without a Cause (1955) a Giant (1956) oedd yr unig ffilmiau a wnaeth Dean yn ei yrfa drasig o fyr, ond fe wnaethant gadarnhau ei enw yn hanes ffilm.

Mae’r byd cerddoriaeth hefyd wedi gwyro i ‘rym tri’ gyda rhai triolegau poblogaidd gan artistiaid amrywiol. Yng nghanol y 60au, rhyddhaodd Bob Dylan dri albwm o fewn cyfnod o 14 mis; Bringing It All Back Home (1965), Highway 61 Revisited (1965) a Blonde on Blonde (1966). Er bod dros 80 o recordiadau wedi eu rhyddhau dan ei enw ers ei farwolaeth, dim ond tri albwm stiwdio a ryddhawyd gan Jimi Hendrix; Are You Experienced? (1967), Axis: Bold As Love (1967) a Electric Ladyland (1968). Ers eu sefydlu ym 1967, roedd lein-yp Fleetwood Mac yn newid yn gyson ac roedd y band ar fin chwalu pan gyflwynwyd y drymiwr Mick Fleetwood i’r ddeuawd roc gwerin Buckingham-Nicks. Rhyddhaodd y criw hwn dri albwm; Fleetwood Mac (1975), Rumours (1977) a Tusk (1979). Mae’n anodd credu bod band mor ddylanwadol â Nirvana ond wedi rhyddhau tri albwm, Bleach (1989), Nevermind (1991) ac In Utero (1993), cyn marwolaeth annhymig y prif leisydd Kurt Cobain.

Mae byd chwaraeon hefyd yn defnyddio trioedd; o fedalau Olympaidd i driolegau bocsio; yn fwyaf nodedig y tair gornest, ‘Fight of the Century’, ‘Fight of the Year’ a ‘Thrilla in Manilla’ rhwng Muhammad Ali a Joe Frazier. Mae’r ‘Trebl’ hefyd ym myd pêl-droed lle mae tîm yn ennill eu cynghrair cenedlaethol, prif gwpan eu gwlad, a thlws prif glwb eu cyfandir, camp a gyflawnwyd gan dimau fel Barcelona, Bayern Munich, Manchester United a Celtic.

Gyda chymaint o driolegau i’w mwynhau, gwnewch Il trittico eich hoff driawd newydd yr haf hwn pan fydd WNO yn ei pherfformio yn ei gyfanrwydd yn ein lleoliad cartref yng Nghaerdydd rhwng 15 a 22 Mehefin, ac eto yr Hydref hwn.

Byddwn hefyd yn perfformio fersiwn gyngerdd arbennig o Il trittico yn Rhydychen ac yn mynd â Suor Angelica a Gianni Schicchi ar daith i Landudno, Plymouth a Southampton.