Newyddion

Y Traddodiad Corawl yng Nghymru

3 Mai 2021

Mae Cymru'n cael ei hadnabod fel cenedl gerddorol a 'Gwlad y Gân', ac mae Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych ar rai o'r traddodiadau corawl hanesyddol sy'n bodoli hyd heddiw.

Cysylltir corau meibion yn aml â Chymru, ac mae'r genedl yn cael ei chydnabod am ei thraddodiadau corawl sydd wedi gwreiddio yn niwylliant sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif. Gwnaeth canu emynau a pherfformio cyfansoddiadau crefyddol greu cynnydd mewn canu corawl, gan daro cysgod ar chwarae offerynnau a chanu cynulleidfaol. Roedd yr ŵyl ganu emynau, sef y Gymanfa Ganu ar ei hanterth wrth i bobl ganu gyda'i gilydd mewn harmoni o nifer o lyfrau emynau, ac yn fuan wedi hynny, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn canu cynulleidfaol wedi ffurfio'r Eisteddfod yng Nghymru.

Ymhlith y corau meibion amlwg yng Nghymru heddiw mae Côr Meibion Treforys Orpheus a Chôr Meibion Treorci, dau o'r nifer o gorau eraill yng nghymoedd De Cymru, rhanbarth sy'n cael ei ystyried fel cartref canu corawl.

Bellach, mae canu corawl yng Nghymru yn arferiad aml-bwrpas. Fe'i gwelir mewn cystadlaethau, digwyddiadau a chyngherddau yn ogystal â digwyddiadau cenedlaethol megis gemau rygbi a gwyliau. Mae'r ymdeimlad o undeb ac agosatrwydd yn dod â llawenydd o ran cenedlaetholdeb a gwladgarwch i bobl wrth ganu mewn côr, yn ogystal â chael bod yn rhan unigryw o enw da Cymru fel 'Gwlad y Gân'.

Fe ffynnodd cerddoriaeth gorawl ar ddechrau'r 20fed ganrif, a hyd heddiw, mae'n un o draddodiadau cerddorol mwyaf blaenllaw Cymru, fel rydym wedi gweld yn y nifer o gystadlaethau corawl sydd wedi cael eu cynnal yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar. Digwyddodd y datblygiad hwn wrth i nifer o gymdeithasau corawl gael eu ffurfio, megis Cymdeithas Corau Meibion Cymru a gafodd ei ffurfio yn 1962, sy'n bodoli heddiw ac sy'n hyrwyddo canu corawl yng Nghymru. Mae'r gymdeithas yn gyfrifol am drefnu Gŵyl Corau Meibion yn y Albert Hall, Llundain ddwywaith y flwyddyn, i hyrwyddo a dathlu canu corawl meibion yng Nghymru.

Rydym hefyd yn dathlu canu corawl yng Nghymru yn yr Eisteddfod, sy'n cynnwys sawl cystadleuaeth i gorau, o gorau ieuenctid i gorau meibion. Yn fwy diweddar, gwelwyd cynnydd mewn cystadlaethau corawl eraill, megis Côr Cymru, sy'n cynnwys nifer o gategorïau corawl, o gorau cymysg i gorau plant; mae'r gystadleuaeth hon yn hyrwyddo'r gelfyddyd o ganu corawl ar ein cyfryngau yng Nghymru. Mae Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen yn cael ei dathlu ar draws y byd, ac yno gwelir canu corawl ar ei orau. Mae corau o bob cwr o'r byd yn dod i'r dref fechan yng Ngogledd Cymru i gystadlu i gael eu henwi fel 'Côr y Byd'.

Mae WNO yn falch iawn o'i wreiddiau yng nghymunedau De Cymru, lle daeth grŵp o bobl a oedd wrth eu bodd yn canu ynghyd i ffurfio'r Cwmni yn ôl yn 1943. Mae ein hanes o ganu corawl yn parhau hyd heddiw gyda'n Corws Cymunedol, yn ogystal â chanu corawl hyfryd gan Gorws WNO yn y rhan fwyaf o'n cynyrchiadau.