Newyddion

WNO - Y 1940au

20 Ebrill 2021

Yn ystod degawd yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Brenin Siôr VI ar yr orsedd yn y Deyrnas Unedig a Winston Churchill a Clement Atlee yn eu tro yn Brif Weinidog, yma yng Nghymru daeth grŵp bach o bobl ynghyd i greu Cwmni a fyddai'n mynd yn ei flaen i hybu 'gwlad y gân' ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. 'Ganwyd' Opera Cenedlaethol Cymru yn swyddogol yn 1943 (ynghyd â'r actor John Nettles - un o gefnogwyr WNO, yr Arweinydd James Levine a'r Beatle George Harrison!)

Cynigiodd yr arweinydd Idloes Owen y dylid sefydlu cwmni opera yn 1943 ac ymunodd â grŵp o bobl o'r un feddwl o'r gymuned leol a oedd yn cynnwys glowyr, athrawon a meddygon. Sefydlwyd y Cwmni, a recriwtiwyd corws gwirfoddol, ond cymerodd dair blynedd iddynt ddod o hyd i leoliad addas i berfformio'r operâu graddfa fawr a oedd ganddynt mewn golwg. Yn y cyfamser, cynhaliwyd gyfres o gyngherddau a oedd yn cynnwys detholiadau o operâu, gan ddechrau yn 1944 yn Theatr yr Empire ar Heol y Frenhines, Caerdydd. Tra'r oedd yn gweithio at ddibenion y rhyfel yn Halliwell's yn Nhrefforest, cyfarfu un o'r aelodau sefydlu, John Morgan, â'r arweinydd Victor Fleming o Birmingham. Fe gafodd Victor ei gyflwyno i Idloes Owen gan Morgan, ac arweiniodd hyn at gyfeillgarwch hir oes.

Erbyn 1946, roedd Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd (sydd bellach yn dŷ tafarn, ar Heol Eglwys Fair) wedi'i sicrhau, a pherfformiodd y Cwmni am y tro cyntaf ar 15 Ebrill 1946. Idloes Owen ei hun a arweiniodd Cavalleria rusticana a Pagliacci. Fe gafodd un perfformiad o Faust ei arwain gan Ivor John, arweinydd a chanwr o Abertawe, ac fe ganodd yntau'r brif rôl mewn perfformiad arall o'r opera honno yn ystod yr un wythnos (Victor Fleming oedd yr arweinydd yn y Faust arall). Norman Jones oedd cyfarwyddwr y cynyrchiadau ac fe berfformiodd y tenor, Tudor Davies ynddynt. Aethpwyd â'r ddwy opera i Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am wythnos ym mis Medi y flwyddyn honno.

Y flwyddyn ddilynol, cyflwynwyd y ddwy opera eto, gan ychwanegu cynhyrchiad cyntaf o Carmen at y rhaglen. Victor Fleming, Ivor John ac Idloes Owen oedd yr arweinwyr, a Mollie Hair oedd y coreograffydd. Perfformiwyd Carmen a Faust yn ystod Tymor yr Hydref ym Mhorthcawl hefyd, am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn 1948, daeth La traviata yn rhan o'r repertoire, yn ogystal â Madam Butterfly, gyda'r tîm creadigol cyfarwydd wrth y llyw. Yn 1949, cyfarwyddodd John Donaldson The Bartered Bride gan Smetana, ac ym mis Tachwedd yr un flwyddyn fe deithiodd y Cwmni ymhellach i'r gorllewin i berfformio am wythnos yn Theatr yr Empire yn Abertawe.

Dangosodd y blynyddoedd cynnar hyn fod yna awydd am opera yn ne Cymru, ac fe fentrodd y Cwmni i leoliadau pellach yn ystod y degawd dilynol