Newyddion

Conglfaen cerddoriaeth glasurol y Gorllewin: Pumed Symffoni Beethoven

25 Mehefin 2025

Symffoni Rhif 5 Beethoven yw un o’r cyfansoddiadau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd mewn cerddoriaeth glasurol, yn cael ei pherfformio gan gerddorfeydd ym mhob cwr o’r byd.  Mae wedi rhagori ar ffiniau amser a diwylliant, gan gipio cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae pŵer parhaus ei motiffau eiconig a’r emosiwn pur wedi’u plethu gyda’i harmonïau yn golygu bod y Pumed Symffoni yn fythol. 

Pan ddechreuodd Beethoven ysgrifennu ym 1804, roedd yn dechrau colli ei glyw, ac erbyn iddo orffen ei hysgrifennu, ym 1808, roedd bron yn gwbl fyddar. Wedi ei disgrifio gan Beethoven ei hun fel ‘ffawd yn curo ar y drws’, mae Symffoni Rhif 5 yn dwyn yr enw ‘Symffoni Ffawd’ yn aml. Mae’r agoriad dramatig yn cipio’r gwrandäwr o’r eiliad cyntaf, gan osod y naws ar gyfer taith o drafferth, tensiwn, a buddugoliaeth dros y pedwar symudiad. 

Wedi ei pherfformio am y tro cyntaf yn Fienna ym 1808, mae'n syndod o beth y cafodd y Bumed Symffoni ddechrau heriol. Roedd yr awditoriwm yn oer iawn, ni chwaraeodd y gerddorfa yn dda, oherwydd mai dim ond unwaith yr oeddent wedi ymarfer, ac roedd y cyngerdd dros bedair awr o hyd. Ond, cafodd ei chydnabod fel campwaith yn gyflym iawn a gosod ei hun yn gadarn mewn hanes cerddoriaeth glasurol ar ôl i’r awdur, yr artist a’r adolygydd cerddoriaeth, E T A Hoffmann, ddisgrifio’r symffoni fel ‘un o ddarnau pwysicaf y cyfnod’. 

Y tu hwnt i’r neuadd gyngherddau, mae Pumed Symffoni Beethoven wedi treiddio i mewn i ddiwylliannau poblogaidd. Mae ei motiffau cofiadwy a themâu dramatig wedi’u gweld mewn ffilmiau a hysbysebion dirifedi, yn ogystal â cherddoriaeth roc hyd yn oed. Mae ei phresenoldeb mewn cyfryngau poblogaidd wedi ei chyflwyno i gynulleidfaoedd newydd a’i chadw’n berthnasol yn yr oes fodern. Mae’r integreiddiad hwn i fathau amrywiol o adloniant wedi cryfhau ymhellach ei statws fel conglfaen diwylliannol.   

Ers yr Ail Ryfel Byd, mae Symffoni Rhif 5 wedi ei disgrifio’n aml fel y ‘Symffoni Fuddugol’. Daeth yr ymadrodd ‘V for Victory’ yn slogan ymgyrch ar ôl i Winston Churchill ddechrau ei ddefnyddio fel arwyddair ym 1940, arwydd o gadernid a brwdfrydedd i arwain buddugoliaeth. Trwy gyd-ddigwyddiad, mae cod Morse y llythyren V (byr-byr-byr-hir) yn gyffelyb â hwnnw yn agoriad Pumed Symffoni Beethoven - ‘dit-dit-dit-dah' a chyn hir, roedd y pedwar nodyn agoriadol hynny ym mhob man, gan gynnwys darllediadau radio y BBC ledled y byd yn ddyddiol. 

Llun: NASA/NOAA/GSFC/Suomi NPP/VIIRS/Norman Kuring

Ym 1977, fe anfonodd NASA eu chwiliedyddion Voyager 1 a 2 i'r gofod, ac roeddent yn cynnwys ‘Record Aur’, casgliad o synau, cerddoriaeth a delweddau i gynrychioli’r Ddaear yn y gobaith y byddent yn dod o hyd i fodau deallus. Roedd y ‘Record Aur’ yn cynnwys symudiad cyntaf Pumed Symffoni Beethoven. Mae’n anhygoel meddwl bod y Voyagers hynny yn parhau i fod yn y gofod hyd heddiw a bod yna bosibilrwydd bod estroniaid yn mwynhau gwrando ar ychydig o Beethoven! 

Mae’r symffoni ragorol hon yn ymgorffori ysbryd chwyldroadol Beethoven ac yn gwthio cerddoriaeth gerddorfaol i ffiniau newydd. O’i hagoriad gafaelgar i’w diweddglo gorfoddelus, mae Symffoni Rhif 5 yn parhau’n gampwaith tragwyddol. 

Caiff Symffoni Rhif 5 ei pherfformio yn y Soiree Haf yng Nghaerdydd, y Drenewydd, Bangor, Aberhonddu a Southampton o’r 4 Gorffennaf.