Mae llawer yn credu fod ‘melltith’ ynghlwm ag ysgrifennu nawfed symffoni, gan gredu mai dyma fydd un olaf y cyfansoddwr, ac y bydd yn marw wrth ei hysgrifennu, neu yn fuan wedyn.
Ludwig van Beethoven, Corawl Symffoni Rhif 9 (1824)
200 mlynedd union yn ôl yn Fienna, perfformiwyd symffoni olaf Beethoven am y tro cyntaf, a daeth yn enghraifft o waith cerddorol o safon. Mae’n anodd gorbwysleisio’r dylanwad a gafodd Nawfed Symffoni Beethoven ar y byd cerddorol.
Seliwyd ei phwysigrwydd pan ddaeth y Nawfed Symffoni yn symffoni olaf Beethoven, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym 1824 yn Fienna. Roedd Beethoven yn dynesu at ddiwedd ei yrfa a bron iawn yn gwbl fyddar. Mae tri symudiad offerynnol yn adeiladu ar sylfeini ei weithiau symffonig blaenorol, Allegro milwrol, Scherzo anodd iawn, ac Adagio gyfareddol.
Yn niweddglo’r symudiad olaf, gwnaeth Beethoven rywbeth chwyldroadol, drwy gyfuno unawdwyr a chôr enfawr. Yma mae’r gân The Ode to Joy, sydd bellach yn anthem yr Undeb Ewropeaidd, wedi ei hysgrifennu i gerdd Friedrich Schiller An die Freude (To Joy). Mae’n ddarn annatod o ŵyl Proms y BBC, sy'n adnabyddus am gael ei arwain gan Leonard Bernstein dri diwrnod ar ôl cwymp Wal Berlin ym 1989.
Bu farw Beethoven rai blynyddoedd wedyn ym 1827.
Franz Schubert, Symffoni Rhif 9 The Great (1825)
Yn fuan iawn wedi perfformiad cyntaf arwyddocaol Beethoven ym 1824, y flwyddyn ganlynol, fe gwblhaodd Franz Schubert ei nawfed symffoni, a’i un olaf.
Yn wir, mae’r symffoni, sy'n para awr, yn ‘great’ o ran hyd (yn enwedig yn ôl safonau'r cyfnod) ac mae’n cynnwys tri thrombôn. Roedd cyfoeswyr Schubert wedi synnu pa mor anodd a chymhleth oedd y gwaith.
Oherwydd hyd a chymhlethdod y symffoni fe’i gwrthodwyd gan hyrwyddwyr cyngherddau Fienna, a golygai hyn na chlywodd Schubert ei ran symffonig olaf yn cael ei berfformio, gan iddo farw o salwch yn 31 oed ym 1828. Ni chynhaliwyd perfformiad o’r gwaith nes i'r cyd-gyfansoddwr, Robert Schumann, achub y sgôr. Fe’i perfformiwyd yn Leipzig ym 1839 dan arweiniad Felix Mendelssohn.
Glasenwyd y symffoni ar ôl ei farwolaeth yn The Great yn bennaf i wahaniaethu rhyngddi a’i Chweched Symffoni Little Great, ond yn fuan daeth yn fawr ei pharch ac i haeddu’r enw.
Antonín Dvořák, Symffoni Rhif 9 From the New World (1893)
Yn 50 mlwydd oed ym 1892, symudodd y cyfansoddwr sefydledig Tsiecaidd Antonín Dvořák i Efrog Newydd yn America i ddod yn gyfarwyddwr y National Conservatory of Music. Yn ystod ei gyfnod byr yn America, ysbrydolwyd y cyfansoddwr gan ysbryd Affricanaidd Americanaidd a chaneuon de'r Unol Daleithiau, i ysgrifennu ei symffoni olaf, a adnabyddir yn ôl ei his-deitl, Symffoni’r New World. Mae’n debyg mai rhan fwyaf adnabyddus y symffoni yw’r ail symudiad, pan mae’r 'cor anglais' yn dechrau'r thema ysbrydol.
Mae Nawfed symffoni Dvořák yn ffefryn mawr yn y neuaddau cyngerdd.
Anton Bruckner, Symffoni Rhif 9 (1896)
Roedd Bruckner wedi bwriadu i’w Nawfed Symffoni fod yn grynodeb o holl lwyddiannau ei fywyd, ac mae’n cynnwys dyfyniadau cerddorol o rai o’i weithiau mwyaf llwyddiannus.
Yn anffodus, bu farw Bruckner wrth gyfansoddi symudiad olaf y symffoni.
Cysegrodd Bruckner, a oedd yn hynod grefyddol, ei waith ‘i'r Duw annwyl’, a pherfformiwyd y symffoni am y tro cyntaf yn Fienna ym 1903.
Gustav Mahler, Symffoni Rhif 9 (1909
Cyfansoddodd Mahler ei Nawfed Symffoni rhwng 1908 a 1909 a dyma’r symffoni olaf iddo ei chwblhau. Bron yn awr a hanner o hyd, roedd yn waith sylweddol ar gyfer cerddorfa fawr. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn Fienna ym 1912 ond yn anffodus ni fu Mahler fyw i’w glywed. Ar ôl cyfnod anodd yn Fienna, a derbyn beirniadaeth gwrth-semitaidd gyson, cafodd Mahler ddiagnosis o galon wan. Bu farw ym 1911.
Dewch i brofi Nawfed Symffoni Schubert fis Tachwedd, gydag Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, un o’r tenoriaid ifanc mwyaf disglair, Nicky Spence, a Cherddorfa fyd enwog WNO yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 9 a 10 Tachwedd.