Newyddion

Hanes cyngerdd Blwyddyn Newydd Fienna

18 Rhagfyr 2024

Dychmygwch hyn - trothwy blwyddyn newydd sbon yn ymestyn o'ch blaen. Rydych yn eistedd mewn neuadd gyngerdd hardd, wrth i gyngerdd sy’n llawn traddodiad cyfoethog ers 100 mlynedd gychwyn. Mae sain waltsiau chwyrlïol a dawnsiau polca bywiog yn llenwi’r aer, wedi’u perfformio gan gerddorfa o’r radd flaenaf. Rydych yn meddwl i chi’ch hun, ‘dyma sut i ddechrau’r flwyddyn newydd!’

Mae’n wir, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn paratoi unwaith eto i ddod â’n dehongliad disglair o gyngerdd Blwyddyn Newydd Fienna, Dathliad Blwyddyn Newydd, i neuadd gyngerdd yn eich ardal chi. Felly, cyn i chi deimlo’ch traed yn tapio’n anwirfoddol trwy’r gyda’r nos, beth am edrych ar draddodiad y cyngerdd Blwyddyn Newydd Fiennaidd er mwyn gweld beth sy’n ei wneud yn gyngerdd sy’n rhy dda i’w golli.


Ers cychwyn yn Fienna yn 1939, mae’r waltsiau cofiadwy a’r dawnsiau polca bywiog, heb amheuaeth, wedi golygu bod y tocynnau i'r cyngerdd hwn mor brin ag aur. Gyda rhaglen o gampweithiau gan y teulu Strauss, Mozart, Brahms ac eraill, mae cymaint o alw am docynnau i gyngerdd Blwyddyn Newydd Fienna fel bod yn rhaid i gynulleidfaoedd gofrestru flwyddyn ymlaen llaw i fod ag unrhyw obaith o gael eu cynnwys mewn raffl i dderbyn tocyn ar gyfer cyngerdd y flwyddyn ganlynol.

Mae'r Walts The Blue Danube yn rhan annatod o’r traddodiad ac yn ffefryn arbennig i’r gynulleidfa. Mae hon yn cael ei chydnabod fel y walts fwyaf adnabyddus erioed, gan roi’r teitl o’r ‘Brenin Walts’ i Strauss II - os nad ydych yn credu eich bod yn ei hadnabod, rydym yn sicr eich bod chi! Mae Hollywood, hyd yn oed, wedi ei denu gan hud y walts hon, gan ei chynnwys ar Netflix yn Squid Game ac A Space Odyssey, 2001 gan Stanley Kubrick, a chlywir mwy o’r walts Fiennaidd yn Sleeping Beauty, Disney a Harry Potter and the Goblet of Fire.


Un peth y dylech ei wneud cyn mynychu ein dehongliad o draddodiad Fienna, Dathliad Blwyddyn Newydd, yw peidio â gadael i’ch rhagdybiaethau ynghylch cyngerdd cerddoriaeth glasurol eich cadw draw. Nid yw’r stereoteip o eistedd mewn tawelwch llethol o reidrwydd yn berthnasol yma. Mewn gwirionedd, yng nghyngerdd 1954 yn Fienna, torrodd y gynulleidfa ar draws tair rhan, gan na allant beidio â chymeradwyo a gweiddi’n llawn edmygedd! Er nad ydym yn annog unrhyw ymyrraeth yn ystod ein perfformiad, fyddwch chi ddim yn ein pechu os bydd difrifwch y dawnsiau polca yn gwneud ichi chwerthin.

Dylai ffraethineb a swyn y dawnsiau polca wneud i chi chwerthin yn uchel

David Adams, Blaenwr Cerddorfa WNO

Heddiw, darlledir cyngerdd Blwyddyn Newydd Fiena mewn dros 90 o wledydd ledled y byd, gyda thua 50 miliwn o wylwyr bob blwyddyn. Ond does dim yn well na phrofi’r awyrgylch yn fyw. Felly, efallai er nad oes gennych docyn ar gyfer Fienna, y newyddion da yw ein bod yn dod â Fienna atoch chi. Felly, fis Ionawr beth am gychwyn 2025 mewn cyngerdd llawn ysblander clasurol gyda Cherddorfa WNO, Dathliad Blwyddyn Newydd, sy’n teithio ledled y DU i Abertawe, Southampton, Aberhonddu, Bangor, y Drenewydd, Truro a Chaerdydd rhwng 3-17 Ionawr.