Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ddod â llawenydd opera i gynifer o bobl â phosibl a rhan o’r ethos hwnnw a arweiniodd at sefydlu ein Corws Cymunedol. Dechreuodd yng Nghaerdydd, gyda chyfranogwyr o Dde Cymru, a sefydlwyd cangen yng Ngogledd Cymru yn 2017, yn Llandudno. Mae’r ddwy gangen yn cynnwys pobl sydd wrth eu bodd yn canu - ar unrhyw lefel.
Daeth WNO ei hun i fodolaeth fel grŵp o gantorion amatur yn dod at ei gilydd i fwynhau’r weithred o gydganu, ac fel mae Allan, aelod presennol o Gorws Cymunedol WNO yn ei roi, mae’r un llawenydd wrth wraidd y grwpiau amatur WNO cyfredol hyn:
‘Fel aelod o’r Corws Cymunedol rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod yn rhan fach o un o’r cwmnïau opera gorau yn y byd. Gyda rheoli a hyfforddi o’r safon orau, mae pob cynhyrchiad yn hynod gyffrous. Mae cynnwys rhaglenni cyngerdd bob amser yn heriol ac mae yna foddhad mawr pan mae popeth yn dod at ei gilydd. Mae canu gyda’r Corws Cymunedol dros y 12 mlynedd diwethaf wedi rhoi llawer iawn o bleser i mi.’
Daw'r Corws Cymunedol at ei gilydd ar sail prosiect unigol yn hytrach na chael ymarferion wythnosol trwy gydol y flwyddyn. Weithiau ffurfir y Corws Cymunedol trwy broses ymgeisio, ac efallai clyweliad hyd yn oed; ar adegau eraill dim ond cofrestru sydd ei angen, ar gyfer prosiect neu berfformiad penodol. Gellir cysylltu'r rhain â phrif Gwmni WNO neu, fel mae'r enw'n awgrymu, gall fod yn fwy cymunedol, fel y digwyddiad Nadolig rheolaidd yng Nghaerdydd.
Mae digwyddiadau diweddar eraill yn Ne Cymru yn cynnwys cymryd rhan ym mherfformiadau Rhondda Rips It Up! yn 2018; a chyngerdd yn Neuadd Hoddinott y BBC a oedd yn rhan o Ŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru yn ein 70ain flwyddyn (2016), perfformio gyda’r Forget-me-not Chorus a Cherddorfa WNO i ddathlu gwreiddiau WNO fel grŵp amatur. Rhoddodd Corws Gogledd Cymru berfformiad cyntaf o Materna Requiem gan Rebecca Dale yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn 2018.
Yn ôl yn 2005, daeth prosiect arbennig, The Most Beautiful Man from the Sea, oratorio yn seiliedig ar stori Gabriel García Márquez, â 400 o gantorion ynghyd gan gynnwys y Corws Cymunedol, côr plant, aelodau o bedwar côr lleol ac aelodau o Gorws WNO. Fe’i perfformiwyd ar Lwyfan Donald Gordon gyda Cherddorfa WNO a Band Pres Tredegar. Roedd y prosiect yn gydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, ysgrifennwyd y darn gan Gwyneth Lewis, y bardd y mae ei geiriau'n ffurfio'r arysgrif ar du blaen yr adeilad. Dyna yn y bôn oedd dechrau’r Corws Cymunedol fel yr ydym yn ei adnabod.
Y gweithgaredd mwyaf diweddar i'r grŵp yn Ne Cymru oedd y gweithdai o bell gyda'r côr gospel cymunedol o Fryste, Renewal, a arweiniodd at berfformiad digidol o O Holy Night. Roedd y sesiynau arlein yn caniatáu i bob côr roi cynnig ar ganu yn arddull y llall - opera a gospel - a chael mewnwelediad i wahanol dechnegau cerddorol. I'r rhai a gymerodd ran roedd hefyd yn rhoi rhyddhad i’w groesawu, ymdeimlad o normalrwydd, yn nyddiau gwallgof y pandemig. Fel mae Jenn Hill, y cynhyrchydd y tu ôl i’r prosiect, yn ei roi:
‘Ar lefel sylfaenol, rydym yn gwybod bod pobl yn colli canu a’r llawenydd a ddaw i’w bywydau ac rydym yn gwybod gan ein cantorion bod y prosiect hwn wedi rhoi ychydig o olau yn yr amser tywyll hwn.’
Oherwydd yr angerdd, yr ymrwymiad a’r angen hwn y byddwn yn parhau i gynnig profiadau canu i bawb, hyd yn oed os mai dim ond arlein yw hynny ar hyn o bryd - yn WNO rydym yn angerddol am opera, rydym yn byw ac yn ei anadlu ac eisiau ysbrydoli’r angerdd hwnnw mewn eraill. Mae’n ymddangos ein bod yn llwyddo yn hyn o beth, fel yr ysgrifennodd un o aelodau rheolaidd y Corws Cymunedol atom i ddweud:
‘Rwyf wedi canu gyda Chorws Cymunedol WNO Gogledd Cymru ers ei sefydlu tair blynedd yn ôl ac rwyf wedi caru pob munud ohono.’