Newyddion

Poblogrwydd O mio babbino caro

4 Tachwedd 2024

Yr Hydref hwn, dychwelodd Il tritticoi lwyfan Opera Cenedlaethol Cymru, yn ddigon o sioe ar ôl ei berfformiad agoriadol ysblennydd yn ystod yr Haf. Mae triptych Puccini yn cynnwys tair opera un act sydd prin yn cael eu perfformio gyda’i gilydd, Il tabarro (The Cloak), Suor Angelica(Sister Angelica) a Gianni Schicchi. Rhoddodd y perfformiad o'r tair opera yma mewn un noson, yn ôl bwriad y cyfansoddwr, wledd fythgofiadwy o emosiynau, drama ddwys a chomedi tywyll i gynulleidfaoedd, ac os y gwnaethoch fynychu unrhyw un o’n perfformiadau o Il trittico, byddwch wedi clywed fersiwn drawiadol y soprano Haegee Lee o’r aria fyd-enwog, O mio babbino caro (Oh, my dear Papa).


Mae O mio babbino caro o Gianni Schicchi, yr olaf o dair opera, yn dangos Lauretta yn pledio i’w thad am ei ganiatâd i briodi ei chariad, Rinuccio. Mae Gianni Schicchiyn opera gomig ysgafn ac, yn anarferol i Puccini, mae rhai munudau gwirioneddol delynegol, sy’n tynnu sylw at felodïau goslefol O mio babbino caro.

Efallai y bydd cynulleidfaoedd yn adnabod y darn hwn oherwydd ei ymddangosiadau mewn diwylliant poblogaidd, ar ôl ymddangos mewn sawl trac sain ffilm, teledu a hysbysebion. Un enghraifft yw rhan allweddol O mio babbino caro yn y ffilm Disney 2021, Luca. Mae aria Puccini yn ymddangos ar ddechrau’r ffilm wrth i ddau bysgotwr wrando ar y darn ar ramoffon. Wrth i’r gramoffon gael ei daflu i'r cefnfor gan anghenfil, mae'r ffilm yn cyflwyno’r gwylwyr i Luca, y prif gymeriad, a’i bwerau.


Efallai y bydd aelodau o'r gynulleidfa hefyd yn adnabod y darn hwn o ganlyniad i'w boblogrwydd fel unawd i leisiau operatig. Perfformiodd y Dduges Kiri Te Kanawa y darn mewn pennod o Downton Abbey, ac yn ystod rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent 2023, daeth perfformiad fersiwn Malakai Bayoh, 13 oed o aria Puccini â dagrau i lygad y beirniad Bruno Tonioli.


Mae O mio babbino caro wedi sicrhau ei le fel dewis cerddorol poblogaidd i sglefrwyr ffuglennol a sglefrwyr yn y byd go iawn. Mae'r unigolion sydd wedi defnyddio’r darn hwn ar gyfer perfformiadau yn cynnwys Carolina Kostner a Michelle Long, yn ogystal â’r cymeriad cartŵn Peppermint Patty mewn pennod o Peanuts.


Ceir ymddangosiad adnabyddus arall o’r darn O mio babbino caro yn y ffilm Helena Bonham Carter o 1985, A Room with a View. Mae’r ffilm yn gyfystyr ag aria Puccini, sy’n gweithredu fel thema drwy gydol y darn, ac i'w chlywed yn llawn yn yr olygfa olaf.

Mae'r dôn enwog wedi ymddangos mewn llawer o ffilmiau a thraciau sain teledu eraill gan gynnwys Mr Bean’s Holiday, Strictly Come Dancing a Captain Correlli’s Mandolin, ac mae’n ddewis poblogaidd i’w defnyddio mewn hysbysebion hefyd. Defnyddiwyd O mio babbino caro mewn rhaglun ar gyfer Grand Theft Auto III ac ym mis Ebrill 2024, rhannodd McDonalds ran fach o’r darn i hysbysebu eu ryseitiau byrgyrs newydd, ‘A Little More Mmm.’ 


Gallwch glywed O mio babbino caro ym mherfformiad y ddwy act Suor Angelica a Gianni Schicchiyn Southampton y mis Tachwedd hwn, a bydd Haegee Lee yn dychwelyd fel Violetta yng ngwaith Verdi, La traviata, yn ein cyngerdd Ffefrynnau Operagyda Cherddorfa WNO.