Newyddion

The Power of Love

25 Ionawr 2021

Rydym ni i gyd wrth ein bodd â chariad. Mae cariad yn wych. Mae cariad yn hyfryd. Yn 1967, ysgrifennodd John Lennon gân o'r enw All You Need is Love ac os ydym wedi dysgu unrhyw beth yn y flwyddyn ddiwethaf, gall grym cariad ein helpu ni drwy'r cyfnodau anoddaf yw hynny. Serch hynny, er y caiff ei ddathlu fel y nod pennaf mewn bywyd, nid yw'r diweddglo hapus byth wedyn yr ydym ni i gyd yn dyheu amdano ac yn ei haeddu ddim bob tro mor rhwydd â hynny. Gall cariad wneud i ni deimlo'n fregus ac afresymol ac mewn opera, gall arwain at ganlyniadau dinistriol hefyd.

Gallwn ni i gyd gytuno bod cariad na chaiff ei ddychwelyd yn galed ar y galon. Yn La voix humaine gan Poulenc, gwyddom fod cariad L tuag at ei phartner yn ei meddiannu, er ein bod yn clywed dim ond un ochr y sgwrs ar y ffôn. Pan na chaiff ei chariad ei ddychwelyd, mae'r berthynas yn chwalu a gwelwn ei byd yn disgyn yn ddarnau, un nodyn ar y tro. Wrth iddi geisio ennill ei gariad, mae ei phoen yn amlwg ym mhob anadl ac ystum ond mae'n rhy hwyr, nid oes ganddo ddiddordeb bellach. Wrth i'r llinell ffôn dawelu, caiff ei gadael yn sibrwd 'Je t'aime' i'w hun. Yn dorcalonnus ac unig, dim ond un ateb sydd...

Nid yw'r The Flower Duet hynod adnabyddus yn debyg o gwbl i brif thema Lakmé gan Delibe. Mae'r darn, sy'n cael ei berfformio gan y cymeriadau Lakmé a'r gweinydd Mallika, yn llawn symlrwydd a diniweidrwydd, yn gwbl groes i'r berthynas rhwng Gerald a Lakmé. Ydy, maent mewn cariad â'i gilydd ond mae'r berthynas wedi'i gwahardd ac nid yw ei thad yn cytuno. Mae'r darn hwn yn drobwynt, tra bod Lakmé i ffwrdd yn casglu blodau, caiff Gerald ymweliad gan gyfaill sy'n ei atgoffa o'i ddyletswydd i'r gwasanaeth. Mae'n troi oddi wrthi, ac yn ei gadael heb unrhyw bwrpas i'w bywyd. 

Fel nifer o straeon cariad gorau'r byd opera, ni chafodd Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru, y diwedd hapus byth wedyn yr oedd hithau'n dyheu amdano ychwaith. Ydy, mae poen calon wrth wraidd un o'r dyddiau mwyaf rhamantus yng nghalendr Cymru. Cwympodd Dwynwen dros ei phen â'i chlustiau mewn cariad â bachgen lleol o'r enw Maelon, ond roedd ei thad [y Brenin] wedi addo ei llaw i Dywysog. Yn dorcalonnus, rhedodd i'r goedwig a gweddïodd ar Dduw i gael gwared ar ei holl atgofion o'i gwir gariad. Ymatebodd yntau drwy roi tri dymuniad iddi, gan gynnwys ei chais iddo ef gael gobeithion a breuddwydion gwir gariadon. I ddangos ei gwerthfawrogiad am gyflawni ei dymuniadau, bu iddi ymroi ei hun iddo a sefydlodd fynachlog ar Ynys Llanddwyn ar ochr orllewinol Ynys Môn lle bu'n ddibriod am weddill ei hoes.

Boed ydych newydd brofi torcalon, yn ddigon hapus yn sengl, neu dros eich pen â'ch clustiau mewn cariad, treuliwch Ddiwrnod Santes Dwynwen yn gwybod ein bod ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn eich caru'n annwyl ac ni allwn aros hyd nes y cawn eich croesawu chi i gyd yn ôl i'r theatr am noswaith yn llawn drama cyn gynted â phosibl.