Newyddion

Chwilio am Fywyd Tragwyddol

22 Gorffennaf 2022

Mae cariad Opera Cenedlaethol Cymru tuag at waith Janàček yn parhau yn ystod ein Tymor yr Hydref 2022 gydag un o’i weithiau llai adnabyddus, The Makropulos Affair, sy’n archwilio’r thema o fywyd tragwyddol. Fel y bydd unrhyw un sy’n hoff o Harry Potter yn dweud wrthych, nid yw obsesiwn ag anfarwoldeb yn argoeli'n dda am ddiweddglo hapus, ac ym myd y celfyddydau ehangach, mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir.

Ddwy flynedd ar ôl perfformiad cyntaf ei opera hynod boblogaidd The Cunning Little Vixen, gwelwyd chwilfrydedd Janàček gyda chylch bywyd eto, y tro hwn aeth ag ef gam ymhellach gyda chymeriad Emilia Marty. Mae’n archwilio a all anfarwoldeb arwain at hapusrwydd, neu a yw natur derfynol bywyd yn angenrheidiol i’w fwynhau – neu ‘fyw’ – tra gallwch. Fel y mae ef ei hun yn disgrifio Emilia a’i opera:

‘Menyw brydferth, 300 oed – yn ifanc am byth – ond mae ei holl deimladau wedi disbyddu! Brrr! Mae hi mor oer â rhew! Dyna’r opera rwy’n ei hysgrifennu!’

Mae ei waith yn dilyn ymlaen o'r Fictoriaid oedd ag obsesiwn â marwolaeth, ac felly, hefyd, y syniad o anfarwoldeb. Adlewyrchwyd hyn yng nghelfyddydau a llenyddiaeth y cyfnod. Enghraifft wych yw The Picture of Dorian Gray gan Oscar Wilde - sydd ers hynny wedi cael triniaeth Matthew Bourne yn ei addasiad dawns gyfoes sy’n dwyn y teitl, Dorian Gray. Gan weithio o’r cysyniad bod portread yn ffordd o gyflawni anfarwoldeb, yn Dorian Gray mae Wilde yn mynd â phethau i’r eithaf gyda’r ffigwr yn y portread yn heneiddio wrth i amser fynd heibio, gan alluogi’r Dorian go iawn i aros yn ifanc am byth. Yn ddiddorol, yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth credid y gwrthwyneb, sef bod cael tynnu eich llun yn dal eich enaid.

Hanes Faust yn ei holl ffurfiau, o’r chwedl Almaenig wreiddiol, i ddrama Christopher Marlowe o 1604 The Tragical History of D Faustus, drama Goethe, ac operâu Gounod neu Berlioz yn y 1800au, yw'r ymchwil am bŵer dros farwolaeth. Codwr y meirwon yw Dr Faust mewn rhai fersiynau o'r chwedl, yn hytrach na'r astrolegydd mwy gwaraidd sydd yn ymddangos mewn fersiynau eraill. Yn y ddwy fersiwn mae’n gwneud cytundeb gyda’r diafol ac yn gwerthu ei enaid am rym a gwybodaeth eithaf

Mae’n thema sy’n atseinio trwy ddiwylliant poblogaidd, mae gan fyd y comics obsesiwn â’r thema hefyd. Mae’r fersiwn ffilm ddiweddaraf, Morbius, yn dilyn obsesiwn Dr Morbius â chwilio am iachâd ar gyfer clefydau terfynol, dim ond i gael ei drawsnewid yn greadur tebyg i fampir gyda’i ieuenctid tragwyddol cysylltiedig. Caiff hynny effaith ddinistriol ar ei fywyd carwriaethol.

YnThe Makropulos Affair, mae bywyd (hir) Emilia Marty yn gyfoethog mewn perthnasoedd, ond a yw hi wedi colli’r gallu i wir garu yn dilyn canrifoedd o golled a thorcalon? Yn ei ymchwiliad i anfarwoldeb, a yw Janàček yn caniatáu hapusrwydd i’w brif gymeriad wedi'r cyfan? Cewch weld yr Hydref hwn.