La traviata yw’r unig un o 27 o operâu Verdi sydd â charwriaeth fel ei phrif thema. Nid carwriaeth gyffredin mohoni, ond un gredadwy iawn. Mae Violetta, Alfredo a’i dad yn gymeriadau go iawn, pobl gyda’r un emosiynau â chi a fi, pobl y gallwn gredu ynddynt. Yn fwy na hyn, maent yn gymeriadau modern, sy’n byw yn Ffrainc yng nghanol y 19eg ganrif, ac wedi eu gwisgo mewn dillad cyfoes.
Ysbrydolwyd cymeriad Violetta gan un o gariadon Alexandre Dumas, Marie Duplessis. Ganwyd fel Alphonsine Rose Plessis ym 1824, roedd Plessis yn diferu prydferthwch melancolaidd, bregus. Erbyn ei bod yn 16 mlwydd oed, gwyddai fod dynion amlwg yn fodlon rhoi arian i dreulio amser yn ei chwmni ac felly daeth yn butain llys. Ychwanegodd hefyd yr enw bonheddig ffug “Du” at ei henw.
Ym 1844, yn 20 mlwydd oed, dechreuodd Duplessis garwriaeth nwydwyllt gydag Alexander Dumas, yr awdur a’r dramodydd a adwaenwyd fel Dumas Fils. Ni pharodd eu carwriaeth yn hir iawn, ac ar ôl iddynt wahanu cafodd gariadon eraill gan gynnwys Liszt. Wedi concro Paris gyda’i ffraethineb, swyn a phrydferthwch trawiadol, bu farw Duplessis o ddarfodedigaeth ym mis Chwefror 1847, yn 23 mlwydd oed. Mynychodd Dumas arwerthiant o’i heiddo yn dilyn ei marwolaeth, lle prynodd gadwyn fel cofarwydd a phenderfynodd ysgrifennu nofel yn seiliedig i raddau ar eu carwriaeth.
Cyhoeddwyd The Lady of Camelias ym 1848, cwta flwyddyn ar ôl ei marwolaeth, ac roedd yn un o weithiau cyntaf y symudiad realaidd. Yn y llyfr, daeth Dumas yn ‘Armand Duval’ a Duplessis yn ‘Marguerite Gautier’. Cafodd y gwerthwr gorau ei addasu i’r llwyfan yn syth. Dangoswyd La Dame aux Camélias am y tro cyntaf yn Théâtre du Vaudeville, Paris ym 1852. Nid oes tystiolaeth i brofi bod Verdi wedi gweld unrhyw gynhyrchiad, ond nid oes amheuaeth y gwyddai am y llyfr a’r gymdeithas Barisaidd y mae’n ei disgrifio. Bu’n byw yn y ddinas o 1847 tan 1852, nid gyda’i wraig Margherita Barezzi (merch ei gymwynaswr), ond gyda Giuseppina Strepponi, y soprano a ddaeth yn gymar oes iddo. Nid oedd cyfansoddwr, tan y cyfnod hwn, wedi selio opera ar bwnc mor gyfoes.
For Venice I’m doing La Dame aux Camélias which will probably be called La traviata - A subject of our own age!
Cadwodd libretydd Verdi, Francesco Maria Piave yn driw i fersiwn llwyfan Dumas. Creodd Piave libreto realistig a chartrefol, sy’n un o’r rhesymau pam fod yr opera yn dal yn berthnasol heddiw.
Mae golygfa marwolaeth Violetta yn galw i gof golygfa marwolaeth wirioneddol 18 Mehefin 1840, pan fu farw gwraig ifanc 26 mlwydd oed Verdi, Margherita ym mreichiau ei thad, gyda’i gŵr a’r meddyg yn bresennol. Enw gwreiddiol Violetta, La traviata oedd Margherita, ar ôl i Dumas roi’r enw hwn i’w arwres. Nid oes llythyr ar gael gan Verdi ynghylch pam y newidiodd yr enw i Violetta yn ddiweddarach. Efallai fod yn well ganddo Violetta na Margherita oherwydd bod llygaid y dydd (‘marguerite’) yn wyn, tra bod porffor neu fioled yn fwy awgrymog o amgylchfyd ac addurniadau erotig demi-mondaines Paris. Neu efallai na allai Verdi oddef gwrando ar enw ei weddw’n cael ei ganu yng nghyd-destun opera am buteiniaid llys.
Ni fyddwn byth yn gwybod pa un ai’r cyd-ddigwyddiad hwn o ran yr un enw cyntaf a dynnodd sylw Verdi at stori The Lady of the Camelias, ond mae’n debyg ei fod wedi chwarae rhan yn y broses o greu campwaith cerddorol sydd wedi cyffwrdd cenedlaethau o gynulleidfaoedd ledled y byd ers 165 o flynyddoedd.
Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn La Fenice, Fenis ym 1853 ac fe’i perfformiwyd yn y DU am y tro cyntaf ym 1856 yn Theatr Ei Mawrhydi, Llundain. Perfformiwyd y cynhyrchiad hwn o La traviata am y tro cyntaf gan Opera Cenedlaethol Cymru yn 2009, dan gyfarwyddyd David McVicar. Dyma ein 5ed adfywiad o La traviata, gyda Sarah Crisp yn dychwelyd fel cyfarwyddwr adfywio am y 3ydd dro.
A dyna chi, y stori wir y tu ôl i La traviata. Mae gwreiddiau stori Verdi am angerdd a brad, o dramgwydd a chamgyfathrach yn dyddio’n ôl i 1824.