Mae hi’n dymor y gwrachod yn Opera Cenedlaethol Cymru, ac rydym yn sicr wedi profi castiau sawl un ohonynt yn ystod y blynyddoedd, wedi perfformio nifer o operâu â gwrach neu ddwy. O’r enwog Hansel & Gretel a Macbeth, i Un ballo in maschera a Lohengrin.
Yn ystod yr 19eg ganrif yn benodol, roedd yn dueddiad poblogaidd i gynnwys gwrachod mewn opera; hyd yn oed os oedd yr opera yn addasiad o stori nad oedd yn cynnwys gwrach o gwbl. Honnir mai’r rheswm am hyn oedd sicrhau bod cantorion penodol yn cael prif rôl, er gwaethaf eu llais a’u gallu. Ond a yw’r cyfan yn seiliedig ar y diddordeb oedd yn bodoli yn ystod y cyfnod hwnnw ym mhopeth Gothig? Waeth beth yw’r gwir amdani, roedd y rhan fwyaf o’r gwrachod hyn yn rhai drwg, sy’n wahanol i genre theatr gerdd.
Cyfeirir at Ulrica yn Un ballo in maschera gan Verdi fel ‘clirweledydd cythryblus’. Mae hi’n proffwydo’r trwbl sydd ar y gorwel, ond ni ellir rhoi’r bai arni am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Yn hytrach, mae’r prif gymeriadau’n rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd anffodus - onid yw hi’n haws rhoi’r bai ar rywun arall?
Gwelir hyn hefyd yn Lohengrin gan Wagner. Ystyrir Ortrud yn draddodiadol fel gwrach baganaidd sy’n credu mewn duwiau anghristnogol, ac sy’n galw arnynt i ddelio ag ergydion ei gwrthwynebwyr: ‘it is not for nothing that I am deeply versed in the darkest of arts’ [Act Dau, Golygfa Un]. Ar ôl rhoi melltith ar frawd Elsa, a’r gwir reolwr - ei droi yn alarch; mae hi’n ceisio twyllo Elsa, fel bod ei gŵr, Telramund, yn dod yn rheolwr.
Yn Macbeth, dehongliad Verdi o ddrama Shakespeare, mae’r Corws yn chwarae rôl y gwrachod, ac yn dod yn rhan enfawr o’r gwaith o adrodd y stori, gyda sawl proffwyd yn rhagweld y digwyddiadau sydd ar y gweill. Yn ein cynhyrchiad o Macbeth yn ystod Hydref 2016, roedd y ddyfais blot yma yn allweddol. Gwnaeth y cynulliad o wrachod o fewn y Corws arwain Macbeth a Lady Macbeth i lawr y llwybr llwm at eu terfyn, a rhoddwyd holl sylw’r olygfa ar eu hedrychiad, oedd yn bell o fod yn rhywbeth da. Rhannwyd y Corws yn dair rhan er mwyn cynrychioli’r tri chynulliad traddodiadol. Roedd pob gwrach â phen moel a chawelli asennau amlwg, ac yn edrych fel cnafon maleisus oedd eisiau creu dinistr. Mae cerddoriaeth Verdi hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad aflonydd trymlwythog.
Wrth sôn am wrachod hardd y byd opera, byddai sawl un yn meddwl am y wrach dda yn Hansel & Gretel gan Humperdinck (mewn ffordd ddirmygadwy, wrth gwrs). Fel arfer, mae’r rôl hon yn cael ei chanu gan mezzo-sopranos, ond yng nghynhyrchiad WNO, tenor sydd yn cymryd yr awenau; oherwydd hyn, ychwanegir naws bantomeimaidd i’r cynhyrchiad, ac mae’r cymeriad yn sicr yn annog y bwio gan y gynulleidfa. Gwelir y plant yn cael eu pobi yn gerfluniau o fara sinsir, a Hansel yn cael ei fwydo er mwyn ei drochi yn y pot. Pwy all annog Gretel wrth iddi wthio’r wrach i mewn i’w phopty ei hun?
Hyd yn hyn, nid yw WNO wedi rhoi cynnig ar gyflwyno Rusalka gan Dvořák sy’n cynnwys y wrach waethaf oll. Yn y gorllewin, cyfeirir ati fel Baba Yaga, ond Ježibaba yw ei henw yn yr opera sy’n boblogaidd ymhlith y Tsieciad. Mae’r wrach, sy’n adnabyddus mewn llên gwerin, yn byw mewn caban teithiol sydd â choesau iâr, ac yn yr opera hon mae’n addo y caiff yr arwres fyw am byth yn gyfnewid am ei llais - cysyniad diddorol iawn ar gyfer opera...
Waeth pa wrach sydd dan sylw, mae pawb yn mwynhau gwylio eu castiau, yn enwedig yn ystod y tymor hwn.