Newyddion

Y Merched y tu ôl i’r operâu

8 Mawrth 2021

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ac mae Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych ar rai o’r merched go iawn sydd y tu ôl i’r operâu.

Enw gwreiddiol La traviata gan Verdi oedd Violetta, ar ôl y prif gymeriad. Hi yw’r soprano yn yr opera hon, putain amlwg y mae Alfredo Germont yn ei charu. Mae’r opera wedi ei seilio ar y nofel La Dame aux Camelia a chafodd y prif gymeriad ei hysbrydoli gan feistres yr awdur, Marie Duplessis. Mae hi’n adnabyddus am fod yn feistres amlwg ymysg dynion cyfoethog, yn denu dynion gyda’i harddwch a’i steil.

Roedd Duplessis yn adnabyddus am fynychu perfformiadau opera yn rheolaidd yn ystod ei hamser yn byw ym Mharis. Credir iddi fod y brif ysbrydoliaeth y tu ôl i’r opera hon, gan fod ganddi enw da am fod yn gymeriad wybodus a chariadus. Cyfieithiad y teitl yw ‘Y Ferch Syrthiedig’, felly gallwn gysylltu hyn gyda chyfranogiad cryf merched a’u rôl yn y darn mawreddog hwn o waith. Wedi ei pherfformio gyntaf yn 1853 yn Fenis, cafodd ei pherfformio gan WNO yn 2018/2019, a chafodd ei disgrifio fel cynhyrchiad ‘torcalonnus’ llawn pŵer ac emosiwn

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn amser i ddathlu a chydnabod y mudiad a statws hawliau merched yn rhyngwladol. Gallwn gysylltu hyn â rolau merched nodweddiadol mewn operâu, enghraifft gyfoes yw’r opera wedi ei seilio ar Anna Nicole Smith, a chafodd ei pherfformio yn y Royal Opera House yn 2011. Wedi ei hysgrifennu gan Richard Thomas, mae’r perfformiad hwn yn canolbwyntio ar fywyd y model Americanaidd, a’r hyn a ddisgrifid fel bywyd ‘opera sebon’. Mae nifer yn credu ei bod yn gymeriad addas i seilio opera newydd arni, ac yn ei chymharu i ffigyrau trasig operâu fel Carmen neu Violetta yn La traviata. Mae’r opera yn portreadu ei bywyd cythryblus wrth iddi frwydro gyda marwolaeth ei gŵr yn 89 oed, brwydrau etifeddiaeth ac ymelwad a ysbrydolodd creu perfformiad y stori yn seiliedig ar ferch a oedd yn wynebu llawer o ofidiau mawr yn ystod ei bywyd. Ysgrifennodd y cyfansoddwr, Mark-Anthony Turnage y gerddoriaeth i gynrychioli anllad, caledwch a heriau ei bywyd gan ddefnyddio anghytgord ac anghyseinedd yn y sgôr i adlewyrchu hyn yn y perfformiad. Drwy gerddoriaeth a pherfformio, mae Turnage wedi llwyddo i ddod â bywyd Smith i’r llwyfan, yn ymgorffori ei bywyd mewn caneuon yn llawn parti, cyffuriau a’r effeithiau roedd hyn wedi ei gael ar ei bywyd.

Gallwn hefyd ddathlu merched mewn opera mewn amseroedd cynharach, gan i Donizetti gyfansoddi opera trasig Anna Bolena, yn seiliedig ar un o wragedd Hari’r VIII, Anne Boleyn. Yn nodedig, mae pedair opera a ysgrifennodd Donizetti yn ystod cyfnod y Tuduriaid, yn seiliedig ar gymeriadau benywaidd blaenllaw, a chyfeirir at y tair dan sylw yn aml fel y 'Tair Brenhines Donizetti’. Wedi cael llwyddiant ysgubol yn ei dderbyniad, perfformiwyd Anna Bolena yn rhyngwladol, gan hyrwyddo gwaith Donizetti yn seiliedig ar ferched o gwmpas y 19eg Ganrif.

Dywedir yn aml fod merched yn cael eu portreadu fel dioddefwyr mewn opera. Yn opera Iain Bell, Jack the Ripper: The Women of Whitechapel, cymerodd y dioddefwyr honedig a'u gwneud yn ganolog i'r stori a dweud wrthym pwy oeddent cyn iddynt golli eu bywydau mewn ffordd hynod drasig.

Gallwn ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni gyda'r merched amlwg hyn a'u rolau allweddol mewn opera a thu hwnt, gan gydnabod eu cyflawniadau, nid yn unig ym myd cerddoriaeth a'r celfyddydau, ond i gydnabod y cydraddoldeb a'r camau y mae merched wedi'u cyflawni yn y gorffennol a'r presennol.