Newyddion

This is the Life! Tu ôl i'r llenni

8 Tachwedd 2022

Ar ôl ymateb hynod gadarnhaol yn yr haf, mae opera epig newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations, yn mynd ar daith fel rhan o Dymor yr Hydref 2022 y Cwmni. Mae This is the Life!, un o'r chwe stori sydd wedi'u cynnwys yn yr opera, wedi'i hysgrifennu gan yr awdur llwyddiannus, Shreya Sen-Handley. Yn llawn comedi, ond eto'n berthnasol, mae'r darn yn dilyn profiadau dau ddoctor Indiaidd ifanc sy'n gweithio yn y GIG. Cawsom sgwrs â Shreya i ddysgu mwy am ei thaith greadigol, o ysgrifennu'r darn, i'w wylio ar y llwyfan.

Beth ysbrydolodd chi i ysgrifennu'r stori hon?

Pan ofynnodd WNO i mi ysgrifennu libreto am y pwnc mewnfudo ar gyfer opera newydd sbon, yr unig gais oedd bod y darn yn un lliwgar a bywiog, ar ffurf nifer o ffilmiau Bollywood. 

Fe'm trawyd yn syth bod hanes doctoriaid o dras Indiaidd/De Asiaidd, sy'n gweithio i'r GIG yn y DU, yn stori sy'n llawn llwyddiant, er bod peth heriau wedi codi ar hyd y ffordd. Yng Nghymru'n unig, mae Meddygon Indiaidd y GIG yn cyfrif am tua 70% o ddoctoriaid y wlad, ac mae nhw'n hanfodol i'w gweithrediad.

Roeddwn yn gwybod y dylai fod yn gomedi, ond comedi dywyll, nad yw'n tanseilio caledwch staff meddygol sydd wedi mewnfudo i'r wlad. Un ffaith am y natur ddynol mae ysgrifenwyr comedi yn ei harfer, yw os ydych yn gallu gwneud i bobl chwerthin, maent yn fwy tebygol o ochri gyda chi. 

Sut beth oedd gwylio eich stori'n dod yn fyw ar y llwyfan?

Fel awdur, mae natur fy ngwaith yn hynod unigol, felly roedd yn brofiad gwych gweithio gyda thîm o bobl mor ddawnus, yn datgelu ein cyd-gryfderau, hyd yn oed wrth i ni ymddifyrru yn amrywiaeth ein gwaith. Ac roedd hi'n bleser gweld fy ngwaith yn dod yn fyw ar y llwyfan diolch i'n cast a chriw talentog.

Sut beth oedd gweld ymateb y gynulleidfa ar y noson agoriadol?

Roeddwn wedi gobeithio am gymeradwyaeth cynnes gan y gynulleidfa, ond roedd y gymeradwyaeth yn fyddarol, gydag ambell i floedd o lawenydd i goroni'r cyfan.

Roeddwn yn eithaf anesmwyth wrth nesáu at y perfformiad cyntaf, er fy mod eisoes â channoedd o gyhoeddiadau, gan gynnwys tri llyfr sydd wedi profi cryn lwyddiant, ac wedi llwyfannu ambell i ddrama yn y gorffennol, ond nid wyf wedi gwneud unrhyw beth ar yr un raddfa a'r cynhyrchiad epig hwn. Pan fynegodd y gynulleidfa'r fath lawenydd yn ein gwaith, yn syml, roeddwn wedi fy syfrdanu, ac ar ben fy nigon.

Roedd bod ymysg cynulleidfa a oedd yn hynod ymatebol ac yn llawn brwdfrydedd yn gwbl wahanol i unrhyw beth rwyf wedi'i brofi o'r blaen, ac rwy'n teimlo mor ffodus o fod yn rhan o'r opera aruthrol hon. 

Yn eich barn chi, pam ei bod hi'n bwysig i gynulleidfaoedd glywed y stori hon?

Mae'n bwysig bod cynulleidfaoedd yn cael ffenestr i fywydau pobl eraill, er mwyn gweld nad yw pawb yn profi'r un profiadau, ac nid yw'r ystod eang o brofiadau y tu hwnt i'n profiadau ni yn cyd-fynd ag unrhyw ragdybiaethau.

Ond rwyf hefyd eisiau i gynulleidfaoedd sylweddoli cymaint sydd gan bob un ohonom yn gyffredin, pa mor gyffredinol yw ein profiadau o gariad, llawenydd, rhwystredigaeth, siom, a mwy. O ganlyniad i hynny, gall cynulleidfaoedd uniaethu â chymaint o This Is The Life!, ac wrth wneud y cysylltiad hwnnw, mae'r neges o harmoni mewn amrywiaeth yn taro deuddeg. 

Profwch Migrations a This is the Life! gan Shreya sydd ar daith tan 26 Tachwedd.