
Wrth i dymor y Nadolig ddod i ben, nawr yw'r amser perffaith i oedi a myfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anhygoel i Opera Cenedlaethol Cymru gyda lansiad ein Hadolygiad Blynyddol 2018/2019.
Eleni, rydym wedi creu rhai o'n gwaith mwyaf mentrus ac uchelgeisiol hyd yn hyn, o ddawnsfeydd i faniau cebab, pryfaid cop mecanyddol i feiciau sy'n hedfan, ac o Mozart i Heggie.
Rydym wedi ymestyn ymhellach, yn arddangos ein gwaith ar lwyfannau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o Gaerdydd i Dubai.

Mae ein gwaith yn y gymuned a datblygu talent wedi parhau i fynd o nerth i nerth, yn ysbrydoli pobl o bob mathau o gefndiroedd.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth anhygoel. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau archwilio drwy'r recordiadau, lluniau a’r geiriau ein Hadolygiad Blynyddol 2018/2019.