Newyddion

Cyd-fideo – Together, I See

17 Rhagfyr 2020

Mae grŵp Corws Cymunedol WNO De Cymru o dros 50 o gantorion a 12 o'r grŵp Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd, yn rhithiol arlein, yn ystod y misoedd diwethaf gyda 30 aelod o Gôr Renewal Bryste i gydweithio ar y rhaglen Cyd-fideo gyda 60 wedyn yn gweithio ar berfformiad digidol a fydd yn cael ei ryddhau cyn y Nadolig.  Roedd Côr Renewal i fod i berfformio gyda WNO yn ein hopera newydd Migrations yr Hydref hwn (sydd bellach wedi'i ohirio tan 2021) ac roedd y prosiect hwn yn cynnig cyfle i WNO a'r Corws Cymunedol ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well yn y cyfamser.

Mae'r ddau grŵp wedi dod â'u harbenigedd eu hunain i'r perfformiad – opera ac emynau hwyliog – ac wedi dysgu ei gilydd o’r naill ochr sut i berfformio ym mhob arddull.  Arweinir Corws Cymunedol WNO, fel arfer, gan Kate Woolveridge gyda Kim Samuels yn arwain ei chantorion, Côr Renewal.

Yn y gweithgareddau 'blasu' opera, dysgodd y grŵp Habanera o Carmen, gydag aelod Corws WNO Meriel Andrew yn ymuno â sesiynau i ganu aria Micaela. Siaradodd yr hyfforddwr iaith Ffrangeg, Pierre Barlier, hefyd â'r grŵp am sut mae cantorion opera yn dysgu ac yn perfformio mewn ieithoedd estron, yn ogystal â hyfforddi sut i siarad y testun Habanera yn gywir.

Yna cyflwynodd Côr Renewal y grŵp i gân emyn hwyliog Rain Down. Dywedodd y cynhyrchydd, Jennifer Hill 'Y peth diddorol gyda'r emynau hwyliog oedd dysgu'n llwyr ar y glust a'r cof sy'n eithaf heriol i unrhyw un sy'n gyfarwydd a chael sgôr o'u blaenau.  Hefyd, mae emynau hwyliog fel arfer yn cael eu sgorio ar gyfer soprano/alto a rhan wrywaidd yn hytrach na Soprano, Alto, Tenor a Bass.  Yn yr ymarferion cynhesu gyda Renewal, dysgon ni hefyd y 'raddfa blues' a 'naws' wahanol i'r canu.'

Ar gyfer y trydydd darn yn y prosiect, cynhyrchodd y cantorion fersiwn Nadoligaidd o Dawel Nos. Dewiswyd y trefniant arbennig hwn o'r darn poblogaidd yn y canon Nadolig gan ei fod yn cynnig arddull glasurol llai traddodiadol neu arferol o'r darn, yn hytrach mae'n fwy o gyfarfod rhwng y ddau fyd sain o opera a'r emynau hwyliog.

Fel prosiect a gyflwynwyd yn gyfan gwbl arlein, roedd y prosiect Cyd-fideo yn arbennig o anarferol oherwydd bu'n rhaid i'r cyfranogwyr ddysgu popeth 'o bell' gyda'r arweinwyr corawl heb unrhyw syniad sut oedd y cantorion yn swnio ar unrhyw adeg benodol, felly mae'n eithaf rhyfeddol y gellir cynhyrchu fideo a sain ar y diwedd!  Mae'r recordiadau i gyd yn cael eu trosglwyddo i beiriannydd sain a fideo sy'n golygu'r holl recordiadau sain a fideo i greu'r perfformiad terfynol. Roedd cyfranogwyr yn gallu dod at ei gilydd eto'n ddiweddar arlein i ymuno mewn mwy o hwyl Nadoligaidd a chael cipolwg ar y fersiwn derfynol wedi'i chwblhau, ond maent yn cael eu cadw mewn gwewyr nes i'r darn terfynol gael ei ryddhau.