Newyddion

Mae Tomáš nol

11 Mawrth 2019

Ar ddydd Mercher 20 Mawrth, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar gyfer ein cyngerdd olaf yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol 2018/2019.

Dyma fydd y cyfle olaf i weld ein Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus yn arwain ar y llwyfan gyngerdd yng Nghaerdydd y tymor hwn. Mae'r repertoire ar gyfer y cyngerdd yn cynnwys Symffoni Rhif 3 Brahms, Concerto i'r Piano Rhif 27 Mozart, gyda'r unawdydd Paul Lewis a Till Eulenspiegels lustige Streiche (Till Eulenspiegel’s Merry Pranks) Richard Strauss.

Mae'r cyngerdd yn agor gyda Symffoni Rhif 3 Brahms, a ystyrir fel ei un fwyaf telynegol, ac yn sicr, ochr yn ochr â gweddill repertoire y noson hon, darn sy'n adlewyrchu 'naws fwy hapus', efallai o ganlyniad i'r ffaith bod Brahms wedi ei ysgrifennu tra ar ei wyliau.

Mae'r pianydd Paul Lewis yn perfformio concerto i'r piano olaf Mozart, darn telynegol arall, a choncerto sydd ym marn nifer o bobl wedi ei ysgrifennu heb sylw arferol Mozart i'w gynulleidfa Fiennaidd, ac felly un sy'n fwy personol oherwydd hynny...bron yn rhyddhaol. Paul Lewis yw cyd-gyfarwyddwr Artistig y Leeds International Piano Competition ac ef oedd y person cyntaf i berfformio cylch cyfan o goncerto i'r piano Beethoven mewn un tymor yn Proms y BBC yn 2010. Mae ei yrfa yn rhoi datganiadau wedi ei weld yn perfformio ar draws y byd mewn lleoliadau yn cynnwys y Royal Festival Hall (Llundain), Carnegie Hall (Efrog Newydd), Concertgebouw (Amsterdam), Musikverein Wien a Konzerthaus Berlin.

Un o ymddangosiadau cyntaf Tomáš gydag WNO yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig oedd arwain Der RosenkavalierStrauss ar y prif lwyfan yn ein Tymor yr Haf 2017, perfformiadau a dderbyniodd gryn ganmoliaeth gan y beirniaid, gyda'r Telegraph yn dweud 'He and his terrific orchestra don’t miss a trick in a reading that is sumptuous and expansive as well as vivacious and witty.’ Gwnaeth y Guardian sylw hefyd 'Conductor Tomáš Hanus's handling of these (Strauss’s exuberant waltzes) – and of the humour and emotion of the score – is wonderfully sympathetic; it often felt as though Strauss’s tone poems were coming from the pit'.

Yn y cyngerdd hwn mae Tomáš yn dychwelyd i gerddoriaeth R Strauss, gyda'i gerdd ysgafngalon sy'n adrodd hanes arwr gwerin Almaenig, Till Eulenspiegel, a'i helyntion, neu ‘drygau’. (Ffaith ddiddorol: cyfeirir yn aml at y thema agoriadol fel cerddoriaeth 'un tro...')

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd i glywed y Sgwrs Cyn y Cyngerdd, a gynhelir ar Lefel 1 am 6.30pm, lle bydd dramaturg WNO Elin Jones, yn siarad am y darnau a chynnig gwybodaeth ychwanegol i chi am y gerddoriaeth a'r perfformiad.

Mae cynulleidfaoedd ICS wedi datblygu perthynas glos â Tomáš ers ei gyngerdd agoriadol yn 2016, felly cadwch lygad allan am y cyhoeddiad ynglŷn â'n cyngherddau yn nhymor 2019/2020.