Newyddion

Dwy Ganrif o Smetana

30 Mai 2024

Eleni, byddwn yn dathlu pen-blwydd ‘Tad Cerddoriaeth y Weriniaeth Tsiec’ yn 200 oed – sef y cyfansoddwr poblogaidd Bedřich Smetana. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwirioni ar gerddoriaeth Smetana. Yn wir, mae gweithiau Smetana wedi ymddangos yn aml yn ein rhaglenni cerddorfaol diweddar a chaiff ei waith ei hyrwyddo gan un o’i gydwladwyr o’r Weriniaeth Tsiec, sef Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO.

Ganed Smetana yn 1824 yn Leitomischl, Bohemia (sydd bellach yn rhan o’r Weriniaeth Tsiec). Cafodd ei fagu yn Ymerodraeth Habsburg mewn cyfnod pan oedd iaith a diwylliant y Weriniaeth Tsiec dan orthrwm yr awdurdodau. Pan oedd yn blentyn, dangosodd addewid cerddorol mawr ac astudiodd ym Mhrâg yn ystod y 1840au, gan droi’n chwyldroadwr am gyfnod byr yn ystod gwrthryfel y ddinas yn 1848. Treuliodd beth amser dramor yn gweithio fel arweinydd a chyfarwyddwr ei ysgol gerddorol ei hun yn Gothenburg, Sweden, cyn dychwelyd i Fohemia yn 1861. Yn 1866, cafodd Smetana ei benodi’n brif arweinydd y Theatr Dros Dro newydd ym Mhrâg, lle llwyddodd i ymestyn ac adeiladu ar drysorfa Slafonig a Tsiecaidd y theatr.

Ysgrifennodd Smetana wyth o operâu Tsiecaidd ar gyfer y Theatr Dros Dro, yn cynnwys yr enwocaf ar y pryd a’r enwocaf hyd heddiw, sef The Bartered Bride (1866). Gan ei fod wedi meithrin y repertoire Tsiecaidd mor drylwyr, erbyn yr adeg yr agorodd y Theatr Genedlaethol barhaol yn 1882 roedd Smetana eisoes wedi cyfansoddi cnewyllyn o repertoire operatig Tsiecaidd a bu’n ddylanwad mawr ar waith y genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr Tsiecaidd, fel Dvořák, Janáček a Krása.

The Bartered Bride oedd un o gynyrchiadau cyntaf WNO ac fe’i perfformiwyd gan y Cwmni am y tro cyntaf yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd ym mis Mai 1949.

Yn ystod y 1870au, ysgwyddodd Smetana brosiect cerddorfaol mawr a arweiniodd at y gyfres chwe symudiad Má Vlast (Fy Mamwlad), sef cyfansoddiad sy’n dathlu mytholeg, hanes a thirwedd y Weriniaeth Tsiec. Fe’i perfformiwyd yn llawn am y tro cyntaf ym Mhalas Žofín ym Mhrâg yn 1882. Hyd heddiw, mae’n dal i fod yn un o’r cyfansoddiadau pwysicaf yn y repertoire Tsiecaidd ac mae ganddo arwyddocâd diwylliannol enfawr i bobl y Weriniaeth Tsiec. Ail symudiad y gyfres, sef Vltava, yw’r symudiad enwocaf, ac mae’n cyfleu siwrnai’r afon trwy ddyfroedd gwyllt a choedwigoedd.

Ar 12 Mai bob blwyddyn, sef dyddiad marw Smetana, mae Gŵyl y Gwanwyn ym Mhrâg yn agor gyda pherfformiad o Má Vlast. Y llynedd, cafodd Cerddorfa WNO y fraint o agor y cyngerdd yn Neuadd Smetana, dan arweiniad Tomáš Hanus y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, ar ôl perfformio’r darn yn gynharach yn 2023 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. 

Pa well ffordd o ddathlu deucanmlwyddiant Smetana eleni na thrwy wrando ar ei gerddoriaeth yn fyw mewn cyngerdd? Os yw hyn yn apelio atoch, peidiwch â cholli taith Cerddorfa WNO yr Haf, a fydd yn cynnwys Agorawd wefreiddiol Smetana o The Bartered Bride. Bydd Croesi Ffiniau yn ymweld ag Aberhonddu, Southampton, Caerdydd, Bangor, Y Drenewydd ac Aberystwyth rhwng 4 a 21 Gorffennaf 2024.