Newyddion

Cyfansoddwyr gorau Cymru

30 Mawrth 2021

Mae cantorion o Gymru wedi bod yn taro’r nodau uchel ers blynyddoedd. O Syr Bryn Terfel, y Fonesig Shirley Bassey i Rebecca Evans, Only Men Aloud, Eden a Stereophonics, nid ydym yn ofni defnyddio ein lleisiau ond pwy yw'r bobl y tu ôl i’r caneuon rydym yn eu canu a’r gerddoriaeth rydym yn ei pherfformio? Archwiliwn rai o gyfansoddwyr gorau Cymru.  

Ar adeg ei marwolaeth, roedd Dilys Elwyn-Edwards (1918-2012) wedi dod yn un o’r cyfansoddwyr caneuon Cymraeg mwyaf adnabyddus ac uchel ei pharch ymysg holl gyfansoddwyr Cymru. Wedi’i geni yn Nolgellau roedd hi’n adnabyddus am ei chaneuon celf ysgafn, melodaidd. Mae Caneuon y Tri Aderyn ac Mae Hiraeth yn y Môr o’i gwaith wedi dod yn glasuron y repertoire caneuon Cymraeg.

Roedd Morfydd Llwyn Owen (1891-1918) yn gyfansoddwr toreithiog a fu farw ychydig cyn ei phenblwydd yn 27 oed. Er mai dim ond am ychydig dros 10 mlynedd y gwnaeth Owen gyfansoddi o ddifrif, gadawodd etifeddiaeth o tua 250 o sgoriau. Er gwaethaf cyfansoddi ar gyfer ensemble siambr, piano, côr cymysg a cherddorfa, ei chyfansoddiadau ar gyfer llais a phiano sy’n cael eu hystyried fel ei chyfraniadau pwysicaf -Slumber Song of the MadonnaTo our Lady of SorrowsSuo Gân, a’i champwaith, Gweddi y Pechadur

Ganed Joseph Parry (1841-1903) ym Merthyr Tydfil, a’i opera Blodwen oedd yr opera gyntaf a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg. Gyda 10 opera, tair oratorio, pum cantata a nifer o anthemau, caneuon a gweithfeydd cerddorfaol, bu hefyd yn golygu a harmoneiddio chwe chyfrol o ganeuon Cymraeg ac ysgrifennodd yr hyn a oedd, yn ôl pob tebyg, y cyfansoddiad gwreiddiol cyntaf ar gyfer band pres.

Derbyniodd Julian Philips (1969-), a anwyd yng Nghaerdydd, swydd Pennaeth Cyfansoddi yn y Guildhall School of Music and Drama yn 2004 ac ef oedd y cyntaf i gael ei benodi i swydd Cyfansoddwr Preswyl gyda Glyndebourne. Ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru mae wedi cyfansoddi dwy opera plant - Wild Cat yn 2006 a Dolffin yn 2005.

O Sir Gaerfyrddin, ysgrifennodd William Mathias (1934-1992) ei gyfansoddiad cyntaf yn bump oed a ddaeth i sylw rhyngwladol yn 1981 pan gafodd ei gomisiynu i ysgrifennu anthem ar gyfer priodas y Tywysog Charles a’r Arglwyddes Diana Spencer.

Yn union fel ei athro, daliodd Paul Mealor (1975-) sylw rhyngwladol pan berfformiwyd ei motet, Ubi caritas, yn Seremoni Briodas Frenhinol Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a Catherine Middleton yn Abaty Westminster. Ef hefyd oedd y cyfansoddwr clasurol cyntaf i ddal safle Rhif 1 y siart glasurol a’r siart bop ar yr un pryd ym mis Rhagfyr 2011 gyda Wherever You Are, ei ddarn ar gyfer The Military Wives Choir a Gareth Malone.