Newyddion

Sêr Opera Cymru - Y Dynion

6 Awst 2020

Yn yr ail erthygl ynghylch prif gantorion Cymru, trown at y dynion gan ddewis rhai o'n ffefrynnau:

Syr Bryn Terfel

Bariton bas o Gymru yw Syr Bryn Terfel. Ganwyd ym Mhant Glas, Caernarfon, ac roedd ganddo dalent ym myd cerddoriaeth o oed ifanc. Rhoddodd ffrind i'r teulu wersi canu iddo, gan ddechrau gyda chaneuon traddodiadol Cymraeg. Ar ôl ennill nifer o gystadlaethau gyda'i ganu, symudodd i Lundain a mynd i'r Guildhall School of Music and Drama. Graddiodd yn 1989, gan ennill  Gwobr Goffa Kathleen Ferrier a'r  Fedal Aur. Yr un flwyddyn enillodd y Wobr Lieder a'r Brif Wobr yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd, Caerdydd. Yn 1990 fe wnaeth ei ymddangosiad operatig cyntaf fel Guglielmo yn Così fan tutte gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn ddiweddarach yn yr un tymor perfformiodd y brif rôl yn The Marriage of Figaro, rôl wnaeth hefyd sicrhau ei ymddangosiad cyntaf gyda English National Opera yn 1991. Roedd Bryn i fod i ddychwelyd i WNO yn ystod Haf 2020 yn Bluebeard's Castle, digwyddiad y bu'n rhaid ei ganslo oherwydd y pandemig byd-eang. 

Syr Geraint Evans

Mae'r bariton bas Syr Geraint Llewelyn Evans yn enwog am ei ddehongliad o Figaro yn The Marriage of Figaro, Papageno yn The Magic Flute, a'r rôl deitl yn Wozzeck. Cafodd ganmoliaeth arbennig am ei berfformiadau yn y rôl deitl yn Falstaff gan Verdi. Ganwyd yng Nghilfynydd, ac roedd ef a'i deulu'n siaradwyr Cymraeg. Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, bu'n gweithio fel gwisgwr ffenestr ar gyfer siop ddillad merched blaenllaw ym Mhontypridd. Yn ei amser hamdden, cafodd wersi canu yng Nghaerdydd gan Idloes Owen, a aeth ymlaen i sefydlu Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chanu gyda'r côr Methodistaidd lleol a'r Gymdeithas Ddrama leol. Yn ystod gyrfa a barhaodd o'i ymddangosiad cyntaf yn y Royal Opera House, Covent Garden ym mis Ionawr 1948, fel y gwyliwr nos yn Die Meistersinger, i'w ffarwel olaf yn yr un tŷ ym Mehefin 1984, chwaraeodd Geraint dros 70 o rolau.

Robert Tear

Roedd Robert Tear, CBE, yn denor ac arweinydd o Gymru. Daeth i'r amlwg yng nghanol yr 1960au fel canwr yn operâu Benjamin Britten. O'r 1970au hyd nes ei ymddeoliad yn 1999, ei brif gartref operatig oedd y Royal Opera House, Covent Garden. Ganwyd Robert yn Y Barri a mynychodd Ysgol Ramadeg Bechgyn Barri. Canodd mewn côr Eglwys lleol ac yn saith oed daeth yn rhan o gynhyrchiad cyntaf erioed Opera Cenedlaethol Cymru - Cavalleria Rusticana - yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 1946. Roedd ei ysgrif goffa yn 'The Guardian' yn ei ddisgrifio fel  'tenor mwyaf amryddawn ei genhedlaeth heb os nac oni bai ac mae'n debyg y mwyaf deallus.'


Fel yn achos y merched, bu'n amhosib cynnwys holl gantorion gwrywaidd gorau Cymru. Oes gennych chi ffefryn?