Newyddion

Sêr Opera Cymru - Y Merched

3 Awst 2020

Mae Cymru yn enwog fel gwlad y gân, fel tarddiad y Côr Meibion ac fel peiriant cynhyrchu sêr o bob genre o gerddoriaeth o'r clasurol i'r pop a roc. Mae'r Cymry wedi'u cynrychioli'n dda iawn ym myd opera yn arbennig, ac rydym wedi dewis rhai o'n ffefrynnau – yn yr erthygl gyntaf dechreuwn gyda dau o'n hoff 'difas'.

Y Fonesig Gwyneth Jones

Llais Soprano dramatig oedd gan y Fonesig Gwyneth Jones, a ystyrir fel y soprano Wagneraidd gorau o blith holl rai Prydain erioed. Fe'i ganwyd ym Mhontnewynydd, a chyn dod yn gantores broffesiynol bu'n gweithio fel ysgrifenyddes yn y ffowndri ym Mhont-y-pŵl. Astudiodd gerddoriaeth yn Royal College of Music yn Llundain, yr Accademia Musicale Chigiana (Siena), yn ogystal â'r International Opera Studio yn Zürich. Ar ôl dechrau ei gyrfa proffesiynol yn 1962 fel mezzo-soprano yn opera Gluck, Orfeo Ed Euridice, ymunodd â  Zürich Opera. Ar ôl darganfod fod ei hystod leisiol uchaf yn ei galluogi i ganu rolau soprano, newidiodd i'r repertoire soprano. Ei rôl soprano fawr gyntaf oedd Amelia yn Un ballo in maschera gan Verdi.

I ddathlu canmlwyddiant y Grand Theatre yn Abertawe yn 1997, perfformiodd y Fonesig Gwyneth Jones mewn cyngerdd arbennig yn y theatr, gan ail-greu perfformiad Adelina Patti, a ganodd yn ystod yr agoriad gwreiddiol. Er ei bod yn dod o'r Eidal yn wreiddiol, ymgartrefodd Patti yng Nghastell Craig Y Nos ym Mhowys.

Rebecca Evans

Ganwyd ffefryn WNO, Rebecca Evans ym Mhontrhydyfen ger Castell-nedd (yr un pentref â'r actor Richard Burton). Astudiodd yn y Guildhall School of Music and Drama ar yr un pryd â Bryn Terfel. Mae hi'n perfformio'n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Opera House, Covent Garden, English National Opera a Bayerische Staatsoper, Munich. Mae hi hefyd wedi ennill cryn dipyn o lwyddiant yn America yn canu rolau fel Susanna (The Marriage of Figaro) gyda Sante Fe Opera; Adele (Die Fledermaus) gyda Chicago Lyric Opera; Zerlina (Don Giovanni); Ann Trulove (The Rake's Progress) ac Adina (L'elisir d'amore) gyda San Francisco Opera; a’r ddwy rôl Susanna a Zerlina ar gyfer Metropolitan Opera, Efrog Newydd.

Mae Rebecca yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru  a dyfarnwyd gradd Ddoethur anrhydeddus mewn Cerddoriaeth iddi o Brifysgol Morgannwg. Bydd Rebecca'n dychwelyd i WNO yn Nhymor y Gwanwyn 2021 yn Der Rosenkavalier, pan fydd hi'n canu rôl The Marschallin, rôl a pherfformiodd am y tro cyntaf â'r Cwmni yn 2017.


Gyda chymaint o gantorion gwych i ddewis ohonynt, roedd yn rhaid i ni hepgor rhai. Pwy yw eich ffefrynnau? Cadwch olwg am ein herthygl nesaf, fydd yn canolbwyntio ar ein hoff ddynion o Gymru.